Safle llongddrylliad y Tecla Carmen, Tanybwlch, Aberystwyth

Drylliwyd nifer o longau ar yr arfordir i’r de o Aberystwyth. Roedd hi’n anodd cael mynediad i’r harbwr ar ddrycin.  Mae’r llun gan William Daniell, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dangos olion drylliedig y Piedade, llong ddeufast o Bortiwgal, ar draeth Tanybwlch yn 1814.

Drawing of Portuguese ship wrecked at Tanybwlch in 1814Ar 10 Mawrth 1858 rhuthrodd achubwyr i gyfeiriad barque newydd hardd o Sbaen a oedd yn cael ei chwythu i gyfeiriad y traeth gan y dymestl. Methwyd â rhwystro’r llong rhag bwrw’r traeth tua 0.8km (hanner milltir) i’r de o’r harbwr. Wedi mynd ar y llong fe welwyd nad oedd criw ar ei bwrdd – ond roedd y siartiau, y sbienddrychau a gweddill yr offer yn eu lle. Roedd y cychod achub a’r gath yn dal ar ei bwrdd gan ychwanegu at y dirgelwch.

Mae’r hanes hwn yn ein hatgoffa o chwedl y Mary Celeste, llong o America y cafwyd hyd iddi heb ei chriw yn nyfroedd yr Iwerydd yn 1872. Roedd yr eiddo personol yn eu man priodol ond roedd un cwch achub yn eisiau, sy’n awgrymu bod y criw wedi ffoi.

Roedd olion gwrthdrawiad ar y môr ar gorff y llong o Sbaen. Yn ôl dogfennau y cafwyd hyd iddyn nhw y tu mewn iddi, ei henw oedd y Tecla Carmen (neu Tecla y Carmen) ac roedd wedi hwylio o Ciwba ddeufis ynghynt yn cario siwgr i Falmouth yng Nghernyw. Oddi yno aethai i Fryste cyn anelu am Lerpwl yn wag ac eithrio am rywfaint o falast mwyn haearn (er mwyn gwella sefydlogrwydd y llong ar y môr).

Dim ond yn ddiweddarach y daeth yr hanes cyflawn i’r fei. Roedd y Tecla Carmen wedi ei tharo gan long fwy o lawer o ran maint sef y North American yn ystod y nos oddi ar Ynys Enlli. A hwythau’n barnu y byddai’r barque yn suddo’n gyflym, aeth y criw ar fwrdd y llong fawr. Ceisiodd perchen y llong o Sbaen hawlio iawndal trwy Lys y Morlys. Yn y pen draw dyfarnwyd mai y North American oedd ar fai ond ni thalwyd dyfarndal i berchennog y Tecla Carmen.

Gwerthwyd gweddillion y llongddrylliad ar ocsiwn ond dygwyd y darnau copr o waelod y llong cyn i’r perchen newydd ddechrau ei datgymalu. Honnai capten y llong bod pethau gwerthfawr gan gynnwys aur wedi’u dwyn o’r llong.

Mae'r ffynonellau yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a 'Ceredigion Shipwrecks', gan William Troughton, Ystwyth Press 2006. Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Gweld map y lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button