Morglawdd Gwynllŵg

Logo for Cardiff CouncilMae’r morglawdd yn ymestyn rhwng yr ardal ger aber afon Rhymni i’r ardal ger aber afon Wysg ger Casnewydd. Mae’n rhan hanfodol o’r system ddraenio sydd wedi galluogi pobl i ffermio ar wastatiroedd Gwynllŵg ers canrifoedd.

Mae olion amddiffynfa fôr Rufeinig wedi eu canfod yma, ac mewn dau leoliad arall tua’r dwyrain. Mewn mannau eraill, mae’r morglawdd yn dilyn llinell amddiffynfeydd a godwyd yn yr oesoedd canol ar ôl canrifoedd o gael eu hesgeuluso. Mae’r rhain ychydig yn bellach o’r môr ei hun. Mae olion y wal hwyrach honno i’w gweld y tu ôl i’r hysbysfwrdd hwn.

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i olion o gymunedau cynharach ar y gwastatiroedd, ond mae’n debygol mai milwyr Rhufeinig o Gaerleon (i’r gogledd o Gasnewydd) fu’r cyntaf i adeiladu wal i amddiffyn y tir rhag y môr. Trowyd tir corsiog yn dir ffermio ffrwythlon, diolch i ffosydd draenio ar hyd a lled y tir.

Cred Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent ei bod yn bosibl y bu’r Rhufeiniaid yn pori eu ceffylau rhyfel yn yr ardal. Mae llawer o esgyrn ceffylau o’r cyfnod wedi eu datgloddio yng Nganfa Fawr Rhymni, lle y bu cymuned Rufeinig.

Boddwyd yr ardal gan don llanw a sgubodd drwy Fôr Hafren ym 1607, a lladdwyd cannoedd o bobl.

Dim ond un man arall yn y byd sydd ag amrediad llanw uwch na’r ardal hon. Mae’r penllanw ryw 15 metr (49 troedfedd) yn uwch na’r distyll. Mae hyn yn creu ardal fwydo rynglanwol i adar. Mae’r rhywogaethau y gellir eu gweld yma yn cynnwys Pibydd y Mawn, y Gylfinir, Pioden y Môr, y Goesgoch, Hwyaden yr Eithin a’r Gorhwyaden.

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button