Golygfan Dinas Brân, ger Llangollen
Golygfan Dinas Brân, ger Llangollen
Defnyddiwch y llun isod i adnabod tirnodau y gallwch eu gweld o'r safle hwn ar Lwybr Clawdd Offa.
Ar ben y bryn agosaf saif adfeilion Castell Dinas Brân. Ystyr Dinas ydi cadarnle. Mae'n debyg y codwyd y castell yn y 1260au cynnar gan Dywysogion Powys Fadog ar safle bryngaer o Oes yr Haearn. Roedd gan y castell borthdy, tŵr mawr, neuadd, tŵr siap D, cwrt canolog mawr a chyfleusterau eraill. Fe'i ddefnyddiwyd ond am gyfnod byr. Yn 1277 llosgwyd y castell gan y Cymry rhag iddo gael ei gipio gan Henry de Lacy, Iarll Lincoln.
Mae Neuadd Dinbren, sy'n amlwg yn y dyffryn islaw, yn faenordy a adeiladwyd yn 1779 ar sylfeini adeilad cynharach. Ymhlith y gwesteion yn yr hen ddyddiau oedd Dug Wellington, Wordsworth, Byron a Walter Scott.
Mae Dyfrdwy yn golygu “dŵr y dduwies”. Dywedir mai Aerfen, duwies rhyfel, oedd y dduwies.
Yr elfennau yn Gamelin ydi cam ac elin. Mae elin yn dynodi tro sydyn mewn ffordd neu afon, ond yma yn cyfeirio mae'n debyg at cyfuchliniau y bryn.
Enw gwreiddiol Moel Morfydd oedd Moel y Morwydd (sef "bryn moel y coed mwyar Mair"). Dros amser newidiwyd Morwydd i Morfydd, enw personol benywaidd.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru