Tramiau’r Gogarth

sign-out

Tramiau’r Gogarth

Mae'r tramiau yma wedi bod yn cymryd ymwelwyr i fyny ac i lawr y Gogarth ers agor y dramffordd ym 1902 (adran is) a 1903 (adran uchaf). Mae gorsaf weindio ar frig pob adran yn tynnu i fyny un car ar gebl,tra’n talu allan y cebl sydd ynghlwm wrth y tram arall ar yr un adran. Mae egni cinetig y car disgynnol yn helpu i dynnu ei bartner i fyny'r llethr. Mae’r cebl yn rhedeg rhwng y traciau, ac mewn cafn lle y mae’r dramffordd yn rhedeg yn y ffordd.

Prin ydi cyrff y tramiau wedi newyd ers pan oeddent yn newydd. O dan y llawr, gwnaethpwyd newidiadau amrywiol yn cynnwys gosod breciau awtomatig yn 1934. Byddai'r breciau yn gweithredu petai tram yn rhedeg yn rhy gyflym.

Ceir rhifau 4 a 5 sy’n gweithredu ar y rhan isaf, 6 a 7 ar y rhan uchaf. Roedd y rhifau 1 i 3 wedi’u dyrannu i gerbydau a ddefnyddiwyd i adeiladu y dramffordd ac sydd wedi hen ddiflannu.

Mae'r polyn ar do pob tram rawn yn ddiangen, ond yn wreiddiol roeddynt yn cysylltu â gwifren parhaus uwchben y llwybr. Roedd y system cyfathrebu symudol hon – ymhell cyn ffonau symudol – yn fodd i'r gyrwyr i gysylltu â'r rheolwr yn yr orsaf weindio ar unrhyw adeg, o unrhyw bwynt ar hyd y trac.

Stêm oedd yn symud y tramiau yn wreiddiol. Roedd y peiriant weindio yn y tŷ hanner ffordd dwbl maint ei gefnder yn yr orsaf uchaf, oherwydd bod y rhan isaf yn llawer mwy serth na'r uchaf. Yn 1957 death periannau trydan i gymeryd lle’r injieni ager.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Gwefan Tramffordd Y Gogarth