Oriel gelf yr AFG
Oriel gelf yr Academi Frenhinol Gymreig, Crown Lane, Conwy
Sefydlwyd yr Academi Frenhinol Gymreig (AFG) ym 1881 i hybu gwaith artistiaid yng Nyghymru. Heddiw mae gan yr AFG dros 100 o aelodau ac mae’n arddangos eu gwaith yn yr oriel yng Nhgonwy.
Roedd Syr Kyffin Williams yn gefnogwr brwd, yn llywyddio’r AFG o 1969-77 ac eto o 1992 tan ei farwolaeth yn 2006.
Ym Mhlas Mawr yr oedd yr AFG yn arddangos o 1885 tan 1993, pan gymerodd Cadw gyfrifoldeb am Blas Mawr.
Capel Annibynwyr Seion oedd cartref presennol yr AFG yn wreiddiol. Bu farw gweinidog cyntaf y capel, y Parch Richard Rowlands, yn 33 oed ym 1836. Newidiwyd ffurf y capel yn yr 1850au a’r 1870au. Penseiri Bowen Dann Davies, o Fae Colwyn, ddyfeisiodd y newidiadau i greu’r oriel newydd.
Côd post: LL32 8AN