Paentiad gan JMW Turner

Paentiad gan JMW Turner

Darluniodd JMW Turner Gastell Conwy sawl gwaith, o onglau gwahanol, oddeutu 1800. Mae’r paentiad hwn, a ddangosir yma gyda chaniatad Oriel Whitworth ym Manceinion, yn cofnodi’r ardal i’r gorllewin o’r castell cyn adeiladu’r rheilffordd.

Copy of image by JMW TurnerMae’r bont yn y darlun i fyny’r afon o’r bont sydd rwan yn cario Ffordd Llanrwst dros afon Gyffin. Yn adeg Turner, byddai’r ffordd yn arwain i fyny at Borth y Felin, un o’r tair mynedfa gwreiddiol i’r dref gaerog. Yn y paentiad, mae’r bont yn cuddio’r ardal wrth aber y Gyffin lle y byddai llongau a chychod yn dadlwytho cyn dyfodiad y Bont Crog a’r cei presennol.

Dengys Turner hefyd sut yr oedd gwaelod rhan o’r castell, ar yr ochr ddeheuol, wedi’i danseilio yn 1655, fel na fyddai’r castell yn cael ei ddefnyddio fel amddiffynfa eto. Trwsiodd cwmni y London & North Western Railway y castell yn yr 1880au.

Tu draw i’r castell yn y paentiad gwelir Yr Ynys. Defnyddiodd Thomas Telford y graig hon fel sail i ochr ddwyreiniol ei Bont Crog, a agorodd ym 1826.

Where is this HiPoint?

Postcode: LL32 8HR

Gwefan Oriel Gelf Whitworth, Prifysgol Manceinion