Safle Plas Mawr, Parc Plas Mawr, Penmaenmawr
Gweddillion Plas Mawr ydi’r sylfeini sy'n awr i’w gweld yn y parc cyhoeddus o'r enw Parc Plas Mawr. Plas Mawr oedd cartref y teulu Darbishire, a oedd yn berchen ar chwarel Penmaenmawr.
Fe'i hadeiladwyd gan y Smiths o Pendyffryn yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Arhosodd y Prif Weinidog William Ewart Gladstone yma o leiaf saith gwaith. Daeth ef a'i wraig yma am y tro olaf fel cwpl yn 1896.
Cafodd rheilffordd fach ei gosod allan ar rhan o'r tir ger a tŷ. Gwnaed model o injian chwarel De Winton i’r teulu i gymryd reidiau o amgylch eu tir. Yn anarferol, roedd gan beiriannau ager cwmni De Winton, o Gaernarfon, ferwydd fertigol, gyda'r dŵr yn gorwedd uwchben y tân yn hytrach na chael ei wresogi gan tiwbiau ffliw y tu mewn i ferwydd llorweddol. Gellid gweld un o’r injieni o Benmaenmawr yng ngorsaf Dinas, ger Caernarfon.
Cafodd y tŷ ei ddymchwel ym 1960 ond mae'r ardal yn awr yn barc cyhoeddus gyda llyn bychan. Yn 2001 comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gerfluniau ar gyfer Parc Plas Mawr, yn cynnwys "Machlud drwy cymylau", mewn ithfaen a thywodfaen, gan Timothy Leonard Shutter, a nifer o weithiau pren gan Dominic Clare yn cynnwys mainc mochyn, pen llew a siap troellog.
Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr
Cod post: LL34 6ND Map