Yr Albion

Tafarn yr Albion, Stryd Porth Uchaf, Conwy

Cyfunwyd dau dafarndy i ffurfio’r adeilad presennol yng nghanol y 1920au. Ar un adeg roedd y lleoliad yma, ar hyd gwaelod Stryd Porth Uchaf, yn brysur gan mai’r stryd hon oedd yr unig fynedfa i’r dref o’r gorllewin.

Caeodd yr Albion yn 2010. Prynodd rhywun cyfoethog o fyd bancio Llundain (a oedd yn hannu o ardal Conwy) y dafarn yn 2011, a gofynnodd i fragdai lleol i redeg yr Albion. Ail-agorwyd y dafarn ar 31 Ionawr 2012, wedi cyfnod o adennill y tu fewn.

Tra y cafodd tafarndai eraill eu moderneiddio dros ddegawdau, cadwodd yr Albion lawer o’i nodeweddiadau gwreiddiol. Gwelir elfennau o Art Nouveau, e.e. teils y prif cyntedd, ac o Art Deco, e.e. y lle tan yn ystafell y bar. Mae pedwar o’r dolenni cwrw ar y bar yn wreiddiol, o’r 1920au. Felly hefyd y seddi sefydlog – gyda’r botymau lle y cai cwsmeriaid alw ar y staff ar un adeg. Dyma un elfen gwreiddiol na chafodd ei hadennill yn 2012!

Credir mai hwn oedd y fenter gyntaf yn y DU i ddod â phedwar bragdy at ei gilydd i redeg tafarn. Y bragdai perthnasol oedd: Mws Piws, Porthmadog; Bragdy Conwy, o Forfa Conwy; Bragdy’r Nant, Llanrwst; a Bragdy’r Gogarth, Glan Conwy.

Côd post: LL32 8RF