Caffi Meinir, Nant Gwrtheyrn

Caffi Meinir, Nant Gwrtheyrn

Enwyd y caffi a'r bwyty yma, sydd yn eistedd wrth ymyl Llwybr Arfordir Cymru, ar ôl arwres drasig stori werin leol. Roedd Meinir a Rhys wedi tyfu i fyny yn ardal Nant Gwrtheyrn a syrthio mewn cariad. Ar fore eu priodas, a oedd i'w gynnal yn Nghlynnog Fawr, dilynodd Meinir yr arfer lleol a chuddio, yna aeth ffrindiau Rhys i ddod o hyd iddi a mynd â hi i'r eglwys. Methon nhw i ddarganfod Meinir. Canslwyd y briodas a syrthiodd Rhys i iselder. Misoedd yn ddiweddarach, roedd yn cysgodi mewn storm o dan hen goeden dderwen wag pan drawodd mellten y goeden a hollti’r boncyff. Y tu mewn roedd corff pydredig Meinir, yn dal yn ei ffrog briodas.

Ger Caffi Meinir y mae cerflun sy'n ymwneud â hanes Rhys a Meinir. Cafodd ei greu gan Sebastien Boyesen yn 2010.

Mae chwedl ynghlwm wrth enw Nant Gwrtheyrn hefyd. Brenin Prydeinig oedd Gwrtheyrn (neuVortigern) yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Lloegr yn y bumed ganrif. Cyflogodd milwyr Sacsonaidd i helpu i’w warchod rhag ei elynion. Gofynnodd i briodi merch Hengist, arweinydd y Sacsoniaid. Mewn gwledd i ddathlu, llallodd y Sacsoniaid ddynion Gwrtheyrn, a ddihangodd i'r dyffryn tawel yma, y tu hwnt i Eryri.

Côd Post: LL53 6NL    Map

Gwefan Nant Gwrtheyrn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button