Cerflun o ferlen fynydd

Y cerflun o ferlen fynydd Gymreig, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno

conwy_mountain_carneddau_poniesCafodd y cerflun efydd hwn ei greu gan Sally Matthews, a’i ddadorchuddio ar 17 Mehefin 2010 gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb. Mae’n cynrychioli’r merlod amrywiol sy’n pori ar ucheldir Cymru, ac sy’n cyfrannu at atal llystyfiant ac eithin rhag difetha cynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae ffermwyr yn defnyddio merlod mynydd Cymreig ers blynyddoedd ar gyfer bridio, gan fagu merlod sy’n enwog am eu nerth a’u dygnwch.

Mae’r ferlen yn arbennig o arwyddocaol i’r ardal hon gan fod Mynydd y Dref, yr ochr arall i’r aber, yn rhan o diriogaeth eang merlod y Carneddau. Credir bod y merlod yn crwydro gogledd Eryri ers miloedd o flynyddoedd. Maent yn dal i fyw’n lled-wyllt, gyda chymorth ffermwyr yr ardal.

Penderfynodd Sally Matthews greu cerflun o ferlen ar ôl siarad â phobl yr ardal ac ymweld ag ysgolion. Mae’r cerflun, sydd wrth ymyl swyddfa Llywodraeth Cymru, y tu allan i ffens y terfyn, a gall y cyhoedd ddod i’w weld unrhyw bryd.

Côd post: LL31 9RZ    Map