Safle glanio morfilod duon, Deganwy

Safle glanio morfilod duon, Deganwy

deganwy_pilot_whales_and_crowdSylwyd ar forfilod duon yn aber Conwy ar Awst 31ain 1944. Erbyn y bore canlynol, roedd 20 ohonyn nhw wedi ar y lan, ychydig yn is na'r marc penllanw: 15 yma yn Neganwy a thri ar draeth Morfa Conwy gyferbyn. Roedd dau wedi nofio heibio pontydd Conwy i Lan Conwy. Roedd o leiaf wyth yn dal yn fyw. Yn ddiweddarach, adroddodd y wasg leol fod 27 o forfilod wedi ar y glannau.

Cyrhaeddodd llawer o wylwyr, fel y gwelwch yn y llun ar y dde (trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archif Conwy, CBSC). Ceisiodd plant lusgo'r morfilod llai i'r môr. Ar y llanw uchel nesaf, cafwyd ymdrech ar y cyd i ddychwelyd y mamaliaid i’r môr, gyda chymorth tractorau, milwyr o wersyll byddin Morfa Conwy a’r pysgotwyr Benjamin Craven a Carl Parkinson. Tynnwyd y rhan fwyaf o'r morfilod allan i'r môr. Cafodd un, 4.5 metr (15 troedfedd) o hyd, ei dorri’n ddarnau a'i gladdu gan weithwyr y cyngor, a chafodd pob un ohonynt rhodd o £1 am eu hymdrechion.

deganwy_pilot_whaleMae'r llun ar y chwith (trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archif Conwy, CBSC) yn dangos un o'r morfilod llai. Mae'r strwythurau yn y cefndir yn nodi'r safle lle gwnaed adrannau harbwr Mulberry ar gyfer glaniadau D-Day haf 1944.

Bu’r sŵolegydd enwog Prifysgol Bangor, yr Athro Professor FW Rogers Brambell, a'i gydweithiwr L H Jackson yn mesur naw morfil gwrywaidd a saith benyw. Roedd y mwyaf yn chwe metr (20 troedfedd) o hyd. Daeth gwybodaeth defnyddiol am strwythur mewnol morfilod duon o’r gwaith post mortem a wnaethpwyd.

Awgrymodd Mr Jackson fod y morfilod – ymlusgwyr o grwp ehangach, o bosibl – wedi cael eu gyrru tuag at y tir gan wyntoedd cryfion ac wedi blino'n lân yn Traeth Lafan, yr ardal bas i'r gogledd o Lanfairfechan, cyn iddynt fynd i mewn i aber Conwy.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Grwp Hanes Deganwy

Map

Gwefan Gwasanaeth Archif Conwy

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button