Cymraeg 1853 lifeboat tragedy memorial, Rhyl

Cofeb trychineb bad achub 1853, Y Rhyl

Crewyd y gofeb hon ar bromenâd Y Rhyl yn 2013. Mae'n coffau’r chwe dyn a fu farw ar ôl i fad achub Y Rhyl droi drosodd yn 1853. Cyfrannodd myfyrwyr o Goleg Y Rhyl syniadau ar gyfer y gofeb, a gerfluniwyd gan Mike Owens.

Roedd bad achub cyntaf Y Rhyl wedi cael ei sefydlu ond yn ddiweddar, gan y Shipwrecked Fishermen & Mariners’ Society, pan welwyd signal gofid am bump o'r gloch un noson yn Ionawr 1853. Roedd llong mewn trafferth yn Hoyle Bank, oddi ar aber y Dyfrdwy. Cychwynodd Gwylan-y-Môr, bad achub Y Rhyl, o harbwr y Foryd gydag Owen Jones, llywiwr, ac wyth arall.

Teithiodd y cwch rhyw 5km (tair milltir) tuag at y llong ond trodd yn ei ôl unwaith y sylweddolodd y criw fod y môr wedi cau dros y llongddrylliad. O fewn 400m  (chwarter milltir) o'r Rhyl, trodd y bad achub drosodd mewn tonnau garw a gwyntoedd cryf o’r Gogledd-Gogledd-ddwyrain. Llwyddodd tri dyn – Peter Edwards, John Williams a’r llywiwr – i ddringo i fyny ar waelod y cwch. Roedd y gweddill wedi diflannu.

Meddai’r llywiwr yn y cwest: "Roedd y dynion i gyd yn berffaith sobr , a gallai dim bai fod ynghlwm wrth unrhyw  berson. Rwyf wedi bod yn siomedig iawn yn y cwch oherwydd ei bwerau i unioni ... Nid wyf yn cymeradwyo ei fodel, sy’n rhy crwn ar y gwaelod, ni fyddai wedi bod mor barod i droi drosodd petai gan y gwaelod lawr fwy gwastad."

Roedd y bad achub wedi cael ei gynllunio gan James Beeching o Great Yarmouth, a enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Bad Achub Northumberland 1851 gyda dyluniad ar gyfer bad achub hunan-unioni. Roedd Gwylan-y-Môr – ychydig yn llai nag enillydd y wobr – yn mesur 8m x 2m (26' x 6'6 ") ac roedd ganddo wyth o rhwyfau dwbl a lugsail.

Y dynion a foddodd oedd: David George, John Evans, Phillip Jones, Thomas Jones, John Edwards a William Parry. Mae eu henwau ar y gofeb yr RNLI yn y Coleg Bad Achub yn Dorset. Trosglwyddwyd gwasanaeth bad achub Y Rhyl i’r RNLI yn 1854, flwyddyn ar ôl eu marwolaeth.

Am fwy o wybodaeth, gweler tudalen Clwb Hanes Y Rhyl ar y drychineb

Gyda diolch i Ruth Pritchard, o Glwb Hanes Y Rhyl

Côd post: LL18 3AF    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button