Cymraeg Adeilad yr Institiwt, Caernarfon

Caernarfon town council logo

Adeilad yr Institiwt, Allt Pafiliwn

Adeiladwyd yr adeilad tri-llawr hwn ym1884, a’i brif nod oedd diwallu anghenion addysgol a diwylliannol y werin. Roedd yna ystafell ddarllen a llyfrgell ar y llawr gwaelod, darlithfa ar yr ail lawr ac ystafell gelf ar y trydydd. Roedd yna ddwy siop ar lefel y stryd, er mwyn cynhyrchu rhent i dalu costau cynnal a chadw’r adeilad.

Ym 1912, ehangwyd yr Institiwt i greu siambr i’r cyngor ar y llawr cyntaf. Gellir gweld arddull Art Noveau y cyfnod mewn nodweddion fel dolenni pres y drysau a’r gwaith pren. Ar lawr gwaelod yr estyniad, roedd yna lyfrgell ehangach, a daeth honno’n Llyfrgell y Sir yn nes ymlaen. Mae un o’r lampau nwy yno hyd heddiw, ac mae’r ffenestri lliw yn adlewyrchu urddas gwreiddiol yr adeilad.

Yn y seler, roedd baddonau cyhoeddus y dref, ac roeddent yn cael eu defnyddio mor ddiweddar â’r 1960au. Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd milwyr a oedd yn gwersylla'r ochr draw i afon Seiont yn cael eu martsio i mewn i’r dre am eu trochfa wythnosol!

Cyflwynwyd cadair y maer gan y Cofi genedigol Syr Williams Preece (1834-1913) pan gafodd ei ordeinio’n Rhyddfreiniwr cyntaf y Fwrdeistref.  Ef oedd prif beiriannydd Swyddfa’r Post ac un o arloeswyr telegraffiaeth ddiwifr a signalau a negeseuon rheilffyrdd.   Bu’n arbrofi gyda chyfathrebu diwifr yn Ne Cymru rai blynyddoedd cyn annog disgybl iddo, Guglielmo Marconi i ddatblygu’r offer a anfonodd neges ddiwifr gyntaf y byd dros y môr ger Penarth ym 1897.

Mae’r adeilad hefyd yn gartref i Siarteri a Seliau Brenhinol Caernarfon, gan gynnwys y gyntaf, a gyhoeddwyd gan y Brenin Edward I ym 1284 ar enedigaeth ei fab yng Nghaernarfon, sef Edward II. Mae’r adeilad yn cynnwys cadeiriau o Arwisgo’r Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru ym 1969, a gwenithfaen o’r Gyngres Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghastell Caernarfon ym 1904 i hybu undod rhwng Cymru, Llydaw, Cernyw, Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw.

Yno hefyd gwelir maen colyn y “gât gyrffyw”. Bob nos, byddai’n cau mynedfa’r Porth Dwyreiniol i’r dref gaerog. Cyferchid agoriad y gât yn y bore bach drwy ganu’r gloch gyrffyw - ceir cof annwyl amdani’n cael ei galw’n ‘gloch yr uwd’.

Ceir manylion ynglŷn â phaentiadau’r Institiwt ar y dudalen HistoryPoints hon.

Hyd heddiw, yr Institiwt yw cartref Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon, ac mae hi ar gau i’r cyhoedd fel arfer, heblaw am ambell i ddiwrnod penodol ym mis Medi.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL55 1AT

Gwefan Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon