Coeden ywen hynafol, Discoed
Mae'r goeden hon yn oroeswr byw rhyfeddol o'r cyfnod cyn hanesyddol. Mae'n bosibl ei bod wedi tyfu cymaint â 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw mae wedi'i leoli ar dir Eglwys Sant Mihangel, ond roedd eisoes yn filoedd o flynyddoedd oed erbyn i Iesu Grist gael ei eni!
Mae coed ywen wedi goroesi trwy adfywio. Mae twf gwreiddiol y goeden hon wedi hen farw ond mae'r pren iau a welwn heddiw yn tynnu maetholion o'r un gwreiddiau cynhanesyddol.
Mae'r goeden hon yn wryw. Mae cydymaith benywaidd llai yn tyfu yn ne-orllewin y fynwent.
Roedd Celtiaid yn ystyried yr ywen fel coeden sanctaidd, ac roeddent yn rhyfeddu at ei gallu i farw ac aildyfu. Mae'n bosib bod yr ardal o amgylch ywen hynafol Discoed wedi cael ei defnyddio ar gyfer addoli cyn i Gristnogaeth ddod i Gymru, gyda'r safle yn cael ei fabwysiadu at ddibenion Cristnogol yn ddiweddarach. Yn lle bod ywen yn cael ei phlannu ger eglwys (fel oedd yn gyffredin ar draws Prydain), cafodd yr eglwys hon ei 'phlannu' ger yr ywen.
Cofnododd arolwg yn 2002 32 rhywogaeth o flodau gwyllt ym mynwent yr eglwys. Mae rhedyn cefn rhwd (Asplenium ceterach neu Asplenium officinarum) yn tyfu'n helaeth ar rannau o'r wal perimedr. Mae ei ddail yn fyr, hyd at tua 12cm o hyd, a'r llabedi wedi'u talgrynnu.
Ger giât ogleddol y fynwent mae ffynnon fechan wedi'i adeiladu o amgylch tarddell. Efallai bod hyn wedi bod yn arwyddocaol yn oes Cristnogaeth Geltaidd neu'n gynharach.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LD8 2NW Gweld Map Lleoliad
Gwefan Cyfeillion Eglwys Sant Mihangel
![]() |
![]() ![]() |