Caer Digoll

tour logo and link to information page

Caer Digoll

Mae’r bryngaer cynhanesyddol hwn ar ffurf cylch a’r safle yn hollol amlwg. Cafodd y gaer ei hadeiladu a’i anheddu gyntaf rhwng yr Oes Efydd diweddar a’r Oes Haearn cynnar (hynny yw, wedi 1000CC a chyn dyfodiad y Rhufeiniaid c. 50 OC).

Yr enw Cymraeg ar y safle yw Caer Digoll (caer yn dynodi amddiffynfa; digoll yn dynodi cyflawn, didor).

Mae’r enw Saesneg ar y gaer (sef Beacon Ring) yn coffáu’r goelcerth a gafwyd yno adeg dathlu Jiwbili Aur y frenhines Victoria ym Mehefin 1887. Mae map Ystad Leighton (1663) yn dangos polyn, pasged dân ac ysgol mewn man a elwir “The Beacon Place”. Fel arfer rhaffau côl tar a losgid mewn pasgedi tân haearn o’r fath, yn arwydd o argyfwng. Mae’n bosib mai’r cynllun o’r bryngaer ar y map hwn yw’r cais cynharaf i ddynodi bryngaer yng Nghymru.

Ceir sôn am y bryngaer, sydd gerllaw hen ffin rhwng Cymru a Lloegr, mewn amryw chwedlau. Mae un o’r cyfeiriadau cynharaf yn digwydd yng Nghanu Llywarch Hen sy’n dyddio o’r 9fed neu’r 10fed ganrif. Mae un darn yn sôn am frwydro yn y 7fed ganrif rhwng tywysog Brythonig o’r enw Cadwallon ac Edwin, brenin yr Eingl-Sacsoniaid. Nodir bod Caer Digoll yn lluest neu’n wersyll i Gadwallon. Arhosodd yno am gyfnod o saith mis gan drefnu saith cyrch yn feunyddiol.

Yn Awst 1485 roedd Cefn Digoll yn fan cynull allweddol i Harri Tudur wrth iddo geisio trechu Richard III. Roedd Harri a’i fyddin o ryw 2000 o filwyr cyflog wedi teithio yma o Sir Benfro trwy Aberteifi a Machynlleth. Arweiniodd Rhys ap Thomas grŵp arall ar hyd y llwybr deheuol o Sir Benfro trwy Aberhonddu i gefn Digoll. Ymunodd milwyr o bob rhan o ogledd Cymru â’r llu a chwyddo maint byddin Harri i nifer o ryw 4,000.

Wedi iddo sicrhau y fath gefnogaeth gref o Gymru, gallai Harri deithio’ n hyderus o Gefn Digoll ar draws y ffin i Amwythig. Roedd yn ben ar fyddin o ryw 5,000 o ddynion erbyn i’r frwydr ddechrau yn Bosworth, Swydd Gaerlŷr. Lladdwyd Richard III er bod ei fyddin ddwywaith maint byddin Harri. Coronwyd Harri yn frenin Harri VII gan ddwyn i ben rhyfel a oedd wedi parhau am 30 o flynyddoedd, rhwng pleidiau York a Lancaster. Sefydlodd linach y Tuduriaid a ddylanwadodd yn enfawr ar hanes Prydain.

Ym 1953 plannwyd coed pîn a ffawydd ar ffurf E II R (Elizabeth II Regina) ar y bryngaer. Gwnaed hyn i ddathlu coroni’r frenhines. Nid yw’n weladwy i neb ac eithrio’r ychydig sy’n hedfan dros y safle.

Yn 2008 daeth y bryngaer yn eiddo i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd–Powys. Un o’r blaenoriaethau ar gyfer safle yw codi’r coed ac adfer yr ucheldiroedd i’w cyflwr yn ystod y 1950au cynnar.   

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Map

 

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Offas Dyke Tour Label button_nav_8W-NSbutton_nav_8W-SN