Man geni'r bardd Cynan, ym Mhwllheli

Man geni'r bardd Cynan, ym Mhwllheli

Cafodd Albert Evans-Jones ei eni yma yn Ebrill 1895. Mae'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Cynan. Roedd yn un o bobl fwyaf dylanwadol llenyddiaeth a bywyd diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif.

Roedd ei dad, y Cynghorydd Richard Albert Jones, yn cadw siop deisennau a'r Tŷ Bwyta Canolog yma yn y Liverpool House. Ym 1917, agorodd Hannah Jane Jones (gynt Evans), mam Cynan, gyfnewidfa lafur i ferched yma, gan honni cyflenwi angen "boniddigesau oedd eisiau morynion o'r radd uchaf" a hynny mor bell i ffwrdd â  Manceinion, Blackpool ac Aberystwyth. Roedd eraill ar ei llyfrau'n cynnwys gweithwyr siop, gweinyddesau, cogyddion a morynion cegin.pwllheli_cynan_in_uniform

Cafodd yr Albert ifanc ei addysg ym Mhwllheli cyn graddio ym Mangor ym 1916, ychydig cyn ymuno â Chorfflu Brenhinol Meddygol y Fyddin. Ac yntau ar seibiant o'i hyfforddiant yn Llandrindod, pregethodd ym Mhwllheli yn Y Tabernacl, Capel y Bedyddwyr. Mae darlun ohono yn ei lifrai ar y dde.

Cafodd ei brofiadau yn Ffrainc ac yn Salonica ddylanwad mawr ar ei gerddi diweddarach gan gynnwys Mab y Bwthyn, sy'n disgrfio bywyd Cymro ifanc ar wasanaeth milwrol. Enillodd y gerdd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1921.

Erbyn hynny, roedd Cynan wedi cael ei ordeinio, ac yn gwasanaethu fel gweinidog gyda'r Presbyteriaid. O 1931 hyd ei ymddeoliad, bu'n diwtor yn y Brifysgol ym Mangor ac yn byw ym Mhorthaethwy. Enillodd Goron yr Eisteddfod wedyn ym 1923 ac ym 1931, ac ennill y Gadair ym 1924. Yr oedd hefyd yn ddramodydd, a bu'n cyfarwyddo llawer o ddramâu, gan chwarae rhai o'r rhannau ei hun.

Ef oedd Cofiadur yr Eisteddfod Genedlaethol o 1935 hyd 1970, a bu'n Archdderwydd ar ddau achlysur. Llwyddodd i foderneiddio gweinyddiaeth yr ŵyl a defnyddiodd ei ddoniau theatrig i ad-drefnu llawer o'r seremoniau, a'u gwneud yn fwy poblogaidd. Bu ganddo ran flaenllaw y sefydlu'r  "rheol Gymraeg" pan gynhaliwyd yr ŵyl yng Nghaerffili ym 1950.

Ym 1963 rhoddwyd iddo ryddfraint tref Pwllheli. Gwnaed ef yn farchog ym 1969, a bu farw flwyddyn yn ddiweddarach.

Diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad

Cod post : LL53 5DH    Map