Neuadd Bodfel, Llannor, ger Pwllheli

Bu Neuadd Bodfel yn gartref i lawer o bobol ddylanwadol dros y blynyddoedd a’r bwriad gwreiddiol oedd codi plasdy ar y safle. Roedd Syr John Bodvel wedi cynllunio i godi tŷ mawr i’w ychwanegu at y gatws gwreiddiol ond bu farw yn 1631 cyn i’r gwaith gael ei ddechrau. Penderfynodd ei ddisgynyddion i addasu’r gatws yn gartref moethus.

Daeth stad Bodfel i amlygrwydd yn dilyn cael ei ehangu gan John Wyn ap Hugh yn yr 16eg ganrif pan dderbyniodd ef Ynys Enlli a thiroedd eraill. Yn ddiweddarach roedd amheuon fod môr ladron ar Enlli yn cael eu cefnogi ganddo. Roedd ei ddisgynyddion yn dal swyddi pwysig ac yn cefnogi’r beirdd. Codwyd statws y teulu drwy briodas gyda teulu dylanwadol Gwydir o ardal Llanrwst, Dyffryn Conwy. 

Bu mab Syr John, oedd hefyd wedi ei enwi yn John, yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn cyn y Rhyfel Cartref ac yn Frenhinwr a swyddog yn y fyddin. Ar ôl y Rhyfel mi aeth dramor i fyw. Bu farw yn 1633 a bu gwrthdaro ynglŷn a’i ewyllys, yn y diwedd cafodd ei eiddo ei drosglwyddo i’w ŵyr – Charles. Bu raid i Charles werthu Neuadd Bodfel a rhannau eraill o’r stad er mwyn talu biliau cyfreithiol!

Yn yr 1670au cafodd Neuadd Bodfel ei thrwyddedu ar gyfer addoliad angydffurfiol. Roedd yr Anghydffurfwyr yn gwrthwynebu fod y llywodraeth yn ymyrryd mewn materion crefyddol. Roedd un o arweinwyr yr Anghydffurfwyr yng Nghymru, James Owen, a anwyd yn Sir Gaerfyrddin, yn byw ym Modfel ar un adeg. Cyhoeddodd ef nifer o lyfrau crefyddol, yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal â llyfr o emynau Cymraeg. Cafodd rhai o’r emynau hynny sylw gan Griffith Jones (Llanddowror) o Sir Gaerfyrddin a fu yn flaenllaw mewn diwygio addysg yng Nghymru.      

Mae gan Neuadd Bodfel gysylltiadau eraill gyda’r byd llenyddol hefyd. Gosodwyd y tŷ ar rent i aelodau o deulu Salusbury o Ddyffryn Clwyd (William Salusbury oedd prif gyfieithydd y Testament Newydd) a ganwyd Hester Salusbury yno yn 1740.  Fel Hester Thrale (Hester Lynch Piozzi yn ddiweddarach), roedd hi yn ffrind agos i Samuel Johnson - ef oedd yn gyfrifol am y Geiriadur Saesneg 1755. Mae’r llythyrau a’r hanesion y bu iddi hi eu cyhoeddi yn ffynhonnell wybodaeth bwysig am Johnson.

Yn Oes Fictoria roedd Bodfel yn enwog am y Gwartheg Duon Cymreig oedd yno. Bu i darw oedd yn perthyn i Griffith Roberts o Bodfel ennill nifer o wobrau yn Sioe Amaethyddol Llŷn ac Eifionydd yn 1891. Erbyn hyn mae Maes Carafanau Neuadd Bodfel wedi ei leoli ar y safle.

Diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Gwefan AHNE Llŷn

Cod post: LL53 6DW    Map y lleoliad