Burry Holms, Gŵyr

button-theme-prehistoric-more

I'r gorllewin o Lwybr Arfordir Cymru yma mae ynys lanw fechan, Burry Holms. Mae offer o Oes y Cerrig a geir yno yn cynnwys fflint gydag olion y glud a oedd yn ôl pob tebyg wedi ei gysylltu â handlen unwaith. Ceir hefyd olion caer o'r Oes Haearn a meudwy canoloesol.

gower_burry_holms_microliths
Microlithau o Burry Holms
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn ystod cyfnod Canol Oes y Cerrig – neu Fesolithig – roedd Burry Holms yn bentir mewndirol. Roedd hyn tua 10,000CC i 4000CC, heb fod ymhell ar ôl i rewlifoedd olaf Oes yr Iâ doddi. Byddai'r safle wedi bod yn lleoliad addas ar gyfer anheddiad Mesolithig gan ei fod yn fan amlwg i weld adnoddau naturiol yr ardal gyfagos, gan gynnwys anifeiliaid y gellid eu hela.

Mae Holmes yn elfen gyffredin o enwau lleoedd Saesneg yng Nghymru, sy'n dod o'r Hen Norwyeg holmr, sy'n golygu "ynys fach grwn". Mae'r ynys yn ymddangos fel Holmes a Holmes en Gower yn y Calendr o gofnodion rholiau Patent ar gyfer y 1440au, lle mae'n cael ei rhestru fel "capel neu feudwyfa" (hermitage).

Fe wnaeth gwaith cloddio diweddar a gynhaliwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Burry Holms ddatgelu nifer o ficrolithau – offer carreg bach gan gynnwys pwyntiau fflint a llifiau bach o'r cyfnod Mesolithig. Mae rhai ohonynt yn ymddangos yn y llun. Cafwyd hyd i olion tar rhisgl bedw sy’n resin gludiog ar un pwynt fflint gan nodi y gallai'r pwynt fod wedi'i atodi i waywffon neu harpŵn. Nid oedd unrhyw wrthrych o'r fath wedi ei ganfod yng Nghymru o'r blaen.

Erbyn y cyfnod a elwir yn Oes yr Haearn (700CC i 43AD), roedd caer wedi'i sefydlu yn Burry Holms, erbyn hynny yn ynys lanw. I fynd at y gaer roedd llwybr neu sarn carreg. Y prif amddiffynfeydd oedd ffos siâp V a rhagfur tua 100 metr o hyd, o'r gogledd i'r de ar draws yr ynys.

Cafwyd hyd i ddarnau o grochenwaith Rhufeinig ar Burry Holms, ac roedd olion eglwys bren o fewn clostir hirgrwn yn dangos meddiannaeth Gristnogol ganoloesol gynnar. Byddai Ynys Lanwol wedi bod yn ardal ddiarffordd addas ar gyfer astudiaeth fynachaidd.

Yn 1195 cofnodwyd y safle fel "meudwyaeth Sant Cynydd-atte-Holme". Roedd Burry Holms ymhlith tiroedd Gŵyr a roddwyd i Abaty St Taurin yn Évreux, Normandi, erbyn dechrau'r 12g. Mae olion o wahanol adeiladau cerrig gan gynnwys eglwys, llefydd byw ac ystafell ddosbarth o bosibl.

Mae safleoedd hanesyddol eraill ar Burry Holms yn cynnwys carnedd neu heneb angladdol o ddyddiad yr Oes Efydd (tua 2000CC i 700CC), a chwareli ôl-ganoloesol segur ac odynnau calch.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes

Gweld Map y Lleoliad

Mwy am hela Oes y Cerrig - gwefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button