Ystâd dai Cae Brics, Biwmares

Cynlluniwyd y tai hyn gan y pensaer adnabyddus Sidney Colwyn Foulkes (1884-1971). Gwnaethant argraff ar sylfaenydd y GIG, Aneurin Bevan, a ymwelodd tra'r oeddent yn cael eu hadeiladu.

Photo of Aneurin Bevan meeting workmen at Cae BricksMae’r lluniau – diolch i Archifau Ynys Môn – yn dangos Aneurin yn cyfarfod â gweithwyr ar y safle adeiladu, a’r tai pan yn newydd.

Roedd Sidney yn byw ym Mae Colwyn ac yn enwog am ei sinemâu a’i siopau cyn yr Ail Ryfel Byd. Cae Brics oedd y cyntaf o nifer o ystadau tai a gynlluniodd ar ôl y rhyfel, a adawodd Prydain yn brin o dai. Enillodd ei ystâd yn Llanrwst fedal, a chanmolwyd ei ystâd yn Llandrillo-yn-Rhos fel un “perffaith swynol” gan y pensaer Americanaidd Frank Lloyd Wright.

Cynhyrchodd y llywodraeth ganllawiau ar gyfer tai newydd a fyddai’n gwella amodau byw ac y gallai cynghorau fforddio i’w hadeiladu mewn niferoedd mawr.

Addasodd Sidney y canllawiau trwy gyfuno pensaernïaeth hen a Newydd. Fe’i hysbrydolwyd gan waith ei ffrind Clough Williams-Ellis ym mhentref Portmeirion.

Photo of newly completed houses at Cae BricksRoedd yn well gan Sidney dai teras na thai pâr, yn rhannol gan eu bod yn rhatach i'w hadeiladu. Roedd gan ei dai ffryntiadau llydan ac roeddent yn llai dwfn o’r blaen i’r cefn nag arfer, fel bod mwy o olau dydd yn yr ystafelloedd, gwell awyru a lle ar gyfer parlwr yn ogystal ag ystafell fyw gyffredinol. Ym 1952 dywedodd ei fod wedi dysgu o gwrdd â theuluoedd bod mamau eisiau gallu cadw “rhyw ran o fy nhŷ yn daclus”, lle gallai ymwelwyr gael eu diddanu mewn cysur.

Ym mis Medi 1945 comisiynwyd Sidney i ddylunio 30 o dai ar gyfer y llechwedd uwchben Biwmares a adnabyddir fel Cae Brics.

Roedd y tir yn rhan o stad Baron Hill. Cawsant eu cwblhau yn 1948, gan leinio tair ffordd newydd: Maes Hyfryd, Ffordd Meigan a Bryn Teg.

Photo of newly completed houses at Cae BricksAr un o sawl ymweliad â’r safle adeiladu, sylwodd y gweinidog iechyd Aneurin Bevan fod nenfydau’r tai yn is na’r safon yn y canllawiau. Dywedodd Sidney fod hyn er mwyn arbed ar frics (a oedd yn brin ar y pryd) a lleihau biliau gwresogi. Cytunodd y gweinidog, a newidiwyd y canllawiau cenedlaethol yn unol â hynny yn 1952.

Dechreuodd y gwaith ar 30 o dai pellach yma yn 1952, gyda gweithwyr ffatri Saunders-Roe mewn golwg, a bloc o chwe fflat ar gyfer hen bobl.

Adeiladwyd y drydedd set o dai (yr olaf) o 1953. Grwpiodd Sidney'r holl dai fel bod yr ystâd yn cynnwys mannau dymunol, golygfeydd deniadol a chydlyniad gweledol.

Yn y terasau sy'n dringo ochr y bryn, mae’r tai unigol yn camu ymlaen fel bod y to cefn yn rhedeg o un tŷ i'r llall - rhatach i'w adeiladu na tho ar wahân i bob tŷ.

Gyda diolch i Adam Voelcker

Cod post: LL58 8HE    Map

Gwefan Archifau Ynys Môn