Banc cyntaf Caernarfon, Cei Banc
Banc cyntaf Caernarfon, Cei Banc
Sefydlwyd y banc cyntaf yng Nghaernarfon yma gan Richard Roberts yn 1792. Cafodd y banc ei gymryd drosodd gan Williams a’i Gwmni yn mis Tachwedd yr un flwyddyn.
Arhosodd y banc yn yr adeilad gwreiddiol hyd nes ei ddymchwel a codi adeilad newydd, wedi ei gynllunio gan y pensaer John Lloyd, yn 1833.
Roedd gan Williams a’i Gwmni ganghennau yn Nhreffynnon a Chaer yn ogystal â Chaernarfon, ond erbyn 1894 roedd y banc yn methu, a chafodd ei gymryd drosodd gan fanc Lloyds yn 1897. Symudodd banc Lloyds i adeilad arall yn Turf Square a gwerthwyd adeilad Cei Banc i`r cyngor sir ar gyfer defnydd swyddfa. Heddiw mae’n gartref i’r cyfanwerthwyr R&I Jones.
Mae`r adeilad wedi ei restru fel adeilad masnach blaenllaw o`r 19eg ganrif sydd mewn cyflwr da. Mae’n cadw ei gymeriad gwreiddiol ac yn cyfrannu at y traddodiad cryf o adeiladau o’r oes Georgaidd sydd yn y dref.
Roedd Thomas Williams ei hun yn gyfreithiwr ac Aelod Seneddol a oedd gyda diddordeb ariannol yn niwylliant copr Ynys Môn. Sefydlodd y banc ar y cyd ar Parchedig Edward Hughes (a fuddsoddodd yn ariannol yn unig yn y fenter, heb ymwneud â rheoli’r busnes) er mwyn ymateb i broblemau cylchrediad arian parod.
Roedd diffyg arian parod ar y pryd. Ni gynhyrchwyd arian parod yng Nghymru ar ôl y Rhyfel Cartref a method y Llywodraeth sicrhau cyflenwad digonol o arian bath o werth isel.
Fel yr oedd y diwydiannau copr, mwyn a llechi yn datblygu yr oedd y nifer o weithwyr yn cynyddu. Roedd angen mwy o arian i`w talu.
Bu i rai diwydianwyr a masnachwyr ddyfeisio eu harian bath eu hunain gyda’r darnau arian yma yn cael eu derbyn ar draws ardal eang. Byddai hyn yn arferol yn gweithio mewn modd teg a chyfiawn, er i rai diwydianwyr fynnu i’r arian gael ei ddefnyddio yn eu siopau hwy yn unig – lle fel arfer roedd prisiau uchel ar nwyddau!
Yr oedd gan Thomas Williams enw da fel dyn gonest a chafodd y llysenw “Twm Chwarae Teg”. Yr oedd ei ddarnau arian ef yn cael eu derbyn ar draws gogledd a chanolbaarth Cymru ac yn Lloegr.
Gyda diolch i Ann Lloyd Jones, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon
Cod post: LL55 1SU Map