Hen waith argraffu Y Goleuad, Caernarfon

slate-plaque

Hen waith argraffu Y Goleuad, Caernarfon

Arferai’r adeilad yma fod yn gartref i wasg argraffu ac yn ei anterth cyhoeddid nifer o bapurau wythnosol yma, gan gynnwys y papur newydd Presbyteraidd Gymraeg Y Goleuad. Yn wreiddiol, warws oedd yr adeilad. Mae Cadw wedi ei gofrestu fel enghraifft dda o Warws Fictorianaidd, Gradd II.

Portrait of John Davies, GwyneddonYn ystod y 19eg ganrif yr oedd Caernarfon yn un o brif ganolfannau argraffu a newyddiaduraeth Cymru. Roedd y diwydiant llechi yn denu pobl i’r ardal a diolch i ddylanwad yr Ysgolion Sul anghydffurfiol, yr oedd llawer yn ddarllenwyr brwd yn y dre.

Cyn 1836, yr oedd papurau newydd yn ddrud oherwydd trethi. Yn 1836 diddymwyd y dreth ar bapur ei hun ac, yn 1853, y dreth ar hysbysebion. Gyda diwedd y dreth ar bapurau newydd yn 1855, agorwyd y llifddorau ac roedd y blynyddoedd 1860 i 1895 yn oes aur argraffu yng Nghaernarfon.

Photo of front page of first edition of Y Goleuad

Yr oedd dyfodiad y papur newydd Cymraeg cyntaf yn 1836 yn golygu fod pobl yn gallu darllen newyddion lleol a chenedlaethol ac am faterion o ddiddordeb neu o bryder iddynt. Yr oedd perthynas agos rhwng y gadair olygyddol a chrefydd, ac yr oedd llawer o’r cynnwys gyda safbwyntiau gwrywaidd a naws ddifrifol iddynt.

Roedd Y Goleuad, yn yr iaith Gymraeg, yn cefnogi gwleidyddiaeth Rhyddfrydol. Cyhoeddwyd ef rhwng 1869 a 1919 ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd Cymreig drwy Gymru a dinasoedd mawr Lloegr. Yr oedd yn adlewyrchu diddordebau enwadol ac yn hybu dirwest a radicaliaeth. Gwelir llun o’r dudalen flaen cyntaf yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwr a golygydd cyntaf Y Goleuad oedd John Davies (Gwyneddon) – llun uchod. Roedd yn newyddiadurwr profiadol a allai ysgrifennu erthyglau ar fyr rybudd. Unwaith, pan nad oedd erthygl a addawyd wedi cyrraedd mewn pryd, fe osgoiodd adael bwlch yn y papur newydd trwy ysgrifennu erthygl a'i chysodi wrth iddo fynd ymlaen!

Gadawodd yr argraffwyr olaf yr adeilad yn 1991 a bu’n wag am nifer o flynyddoedd. Erbyn hyn mae’r adeilad yn gartref i Gwmni Da, cwmni cyfryngau Cymraeg, sydd yn parhau cyfraniad y safle at gadw’r iaith a diwylliant Cymreig yn fyw.

Gyda diolch i Ann Lloyd Jones, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1SR    Map

Gwefan Cwmni Da

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button