Cyn gartref y cerddorion Leila Megane a T Osborne Roberts, Caernarfon

slate-plaque
button-theme-women

Cyn gartref y cerddorion Leila Megane a T Osborne Roberts, Caernarfon

Yn y tŷ yma bu'r seren opera ryngwladol Leila Megane yn byw gyda'i gŵr cerddorol Thomas Osborne Roberts (gweler isod).

Portrait of Leila MeganeGanwyd y mezzo soprano Megan Margaret Roberts yn 1891 ym Methesda, yng ngorsaf yr heddlu mae’n debyg. Plismon oedd ei thad. Ym 1896 symudodd y teulu i Bwllheli, lle bu farw ei mham yn 1898. Ymderchodd ei thad i’r eithaf i gefnogi ei thalent cerddorol. Gwnaeth ei hymddangosiad unigol cyntaf yn 1907.

Ar ôl astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, ac ym Mharis, enillodd ei chontract proffesiynol cyntaf, yn yr Opéra Comique ym Mharis. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n diddanu milwyr a anafwyd yn Ffrainc, gan dynnu sylw gwleidyddion amlwg gan gynnwys yr Arglwydd Balfour, Bonar Law a Syr Winston Churchill. Mae ei phortread ar y dde wedi’i arwyddo “Megan Jones, Paris 1916”.

Yn 1919 cychwynnodd gontract pum mlynedd yn Nhŷ Opera Covent Garden, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Thérèse, gan Massenet, gyda’r Prif Weinidog David Lloyd George yn y gynulleidfa. Ym 1922 gwnaeth y recordiad cyflawn cyntaf o Sea Pictures Syr Edward Elgar, gydag Elgar yn arwain. Canodd yn La Scala, Milan ac ym Moscow, ymhlith lleoliadau Ewropeaidd eraill.

Pan ganodd yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd yn 1923, Osborne Roberts oedd ei chyfeilydd. Fe briodon nhw yn Efrog Newydd yn 1924. Hi oedd ei ail wraig. Ar ôl dychwelyd, ymgartrefodd y ddau yma yng Nghaernarfon. Roedd ganddyn nhw un ferch, Isaura.

Defnyddiwch y ddolen YouTube isod i wrando ar Leila yn canu Cymru Annwyl. Cewch lawrlwytho meu brynu’r albwm o wefan Sain trwy ddilyn y ddolen isod.

Symudodd y cwpl i Lundain yn y 1930au, ac i Sir Ddinbych ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Ymddeolodd Leila Megane ym 1939. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1955, sefydlwyd ysgoloriaeth yn dwyn ei henw ar gyfer cantorion ifanc o Gymru sy'n canu yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Bu farw yn ei chartref yn Efailnewydd, Pwllheli, ym 1960.

Ganed Thomas Osborne Roberts ger Croesoswallt. Symudodd ei deulu i Ysbyty Ifan, Sir Ddinbych, ym 1890 i gadw siop. Graddiodd ym Mangor a daeth yn syrfëwr tir. Dechreuodd astudio cerddoriaeth a dysgu piano wrth weithio yn ystâd Castell Y Waun, a symudodd i Landudno ym 1902 er mwyn cysegru ei amser i gerddoriaeth.

Pan symudodd i Gaernarfon, daeth yn organydd yng Nghapel Saesneg Y Maes (Castle Square) ac yn organydd a chôr-feistr yng Nghapel Moreia. Tua'r amser hwn, ysgrifennodd rai o'i gyfansoddiadau enwocaf - Y Nefoedd, Pistyll y Llan, Cymru Lân a'r emyn dôn Pennant. Bu'n dysgu yn yr ysgol ramadeg a rhoi gwersi preifat. Bu farw ym 1948.

Fe’i cofir heddiw gan wobr goffa T Osborne Roberts (Y Rhuban Glas), a gyflwynir yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer y canwr unigol gorau.

Gyda diolch i Ann Lloyd Jones, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1BD    Map

Gwefan Sain – lawlythwch albwm Leila Megane neu brynwch ar CD

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button