Hen gartref John Eilian, Caernarfon
Hen gartref John Eilian, Caernarfon
Gellid dadlau fod mwy o ddeuoliaeth yn perthyn i John Eilian nag i unrhyw un o enwogion tref Caernarfon. Fe'i cofir fel dyn tal, unionsyth, yn cerdded o gwmpas y Dre. Ynghyd â Lloyd George a thriawd Penyberth, fe'i gwelir o hyd ar furlun enwog Ed Povey ger y Llyfrgell sy'n dysteb diamheuol o'i statws.
Daeth i fyw yma yn 1953 a threuliodd chwarter canrif olaf ei yrfa yn brif olygydd Papurau'r Herald oedd yn cyhoeddi'r Herald Cymraeg, y Caernarfon and Denbigh Herald a'r Holyhead and Anglesey Mail. Diau na fyddai'r Herald Cymraeg wedi goroesi cyhyd hebddo, gan iddo gael ei gyhoeddi ar golled am flynyddoedd lawer.
Ym mhentref Pen-y-sarn, plwyf Llaneilian, Ynys Môn y ganwyd ef yn 1903. Ceir plac i'w goffáu ar fur ei gartref Pen-lan. Ar ôl iddo gipio'r Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol y daethpwyd i'w adnabod fel John Eilian.
Mynychodd Goleg Aberystwyth a Choleg yr Iesu Rhydychen ond gadawodd y naill brifysgol a'r llall heb ennill gradd. Yn Aberystwyth dylanwadwyd yn drwm arno gan T H Parry-Williams a chan yr Athro T Gwynn Jones. Mewn teyrnged i'w hen Athro dywedodd iddo 'uwchlaw pob dim, ein dysgu i feddwl am waelodion ein gwlad, a hen, hen urddas ei phobl.' Mewn llythyr o Rydychen at gyfaill dywedodd 'fod gormod o beth cythral o aristocrats yno a digonedd o arglwyddi a thywysogion a barwnigod a gwybetach cyffelyb' o'i gwmpas. Dyma felly ddigon o dystiolaeth ei fod yn arddel daliadau sosialaidd cryf pan oedd yn ifanc.
Digwyddiad go fentrus yn 1923 oedd i ddau fardd ifanc - Prosser Rhys yn 22 oed a JT Jones yn 19 - gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Gwaed Ifanc. Ei swydd newyddiadurol gyntaf oedd gyda'r Western Mail yng Nghaerdydd lle daeth yn ffrind i Caradog Prichard. Wedi hyn, bu am dair blynedd yn Basrah yng Ngwlff Persia yn Olygydd y Times of Mesopotamia, ac yn y 30au treuliodd gyfnod yn olygydd y Times of Ceylon. O Basrah dychwelodd i Lundain yn 1930 i weithio ar y Daily Mail. Dyma'r cyfnod y gweithiodd ef a'i briod, Lilian, yn galed i sefydlu'r cylchgrawn Y Ford Gron, cylchgrawn a ddaeth yn boblogaidd oherwydd bywiogrwydd ac ysgafnder ei gynnwys.
Yn dilyn llwyddiant Y Ford Gron dychwelodd John Eilian i Gymru yn 1931 i fod yn olygydd cyffredinol a chyhoeddwr i Hughes a'i Fab yn Wrecsam. Yma nid oedd yn brin o weledigaeth o'r hyn yr oedd y Gymraeg a'i diwylliant ei angen ac nid ofnai weithio'n galed i sicrhau hynny.
Yn 1947 enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn am ei awdl Maelgwn Gwynedd. Roedd yr awdl hon yn cyffwrdd ag un o ddadleuon mawr cyfnod yr Ail Ryfel Byd, y ddadl militariaeth yn erbyn heddychiaeth. Yna yn 1949 yn Nolgellau, dyfarnwyd y Goron iddo am ei bryddest Meirionnydd.
Ym marn Emyr Price bu John Eilian yn 'enigma drwy'i oes: yn Dori, Uchel-Eglwyswr, Prydeiniwr a Brenhinwr. Yr oedd yn un o'r sgwenwyr Cymraeg gorau yn hanes gweisg Cymru, yn arloeswr cylchgronau poblogaidd ac yn un o ffigurau pwysicaf newyddiaduraeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.'
Gyda diolch i Geraint Persi a Chymdeithas Ddinesig Caernarfon
Cod post: LL55 1BE Map