Cyn siop glociau yr Archdderwydd Cyntaf, Caernarfon

slate-plaque

Cyn siop glociau yr Archdderwydd Cyntaf, Caernarfon

Portrait of Clwydfardd, first Archdruid of Wales

Dyma siop y gwneuthurwr clociau ac oriawrau David Griffith. Yn ddiweddarach daeth yn Archdderwydd cyntaf Cymru a swyddog llywyddu ‘Gorsedd y Beirdd’. Dangosir ei bortread yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ganwyd David yn 1800 yn Dinbych, lle roedd ei dad Richard yn wneuthurwr clociau. Daeth i Gaernarfon yn 1824 i gychwyn ei fusnes gwneud clociau ei hun. 

Roedd Caernarfon yn un o drefi mwyaf Cymru, gyda phoblogaeth o 4,595 ym 1826, ac roedd ei masnach lechi ffyniannus yn ei gwneud yn le delfrydol i fusnesau newydd. 

Priododd David ag Elinor Jones, o deulu morwrol yn Abermaw, yn Eglwys St Peblig’s yn 1837. Roedd ganddynt chwech o blant ac roeddant yn byw yn Turf Square ac yn ddiweddarach yn Stryd Garnons, ger y capel Wesleaidd. Gadawsant Caernarfon yn 1856. Roedd ei weithiau’n cynnwys y cloc sy’n dal i addurno swyddfa Ymddiriedolaeth yr Harbwr ger Castell Caernarfon, a chloc tref Porthmadog. Adferodd y cloc yn eglwys blwyf Abergele pan oedd yn 83 oed. 

Cerddodd bellteroedd maith ar ddydd Sul fel pregethwr lleyg Wesleaidd. Dywedwyd iddo gerdded i gopa’r Wyddfa ac yn ôl yn 84 oed!

Ei enw barddol oedd Clwydfardd (gan gyfeirio at ei darddiad yn Clwyd). Daeth i amlygrwydd llenyddol trwy ennill y fedal arian am farddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1824, a gynhaliwyd yn Ninbych. Daeth yn feirniad llenyddol ar gyfer yr Eisteddfod yn 1835 a bu’n fardd swyddogol yr ŵyl ym 1849, flwyddyn cyn iddo gael ei dderbyn i’r Orsedd. 

Yn 1876, creodd yr Orsedd rôl newydd Archdderwydd Cymru. Arhosodd Clwydfardd yn Archdderwydd hyd flwyddyn ei farwolaeth yn 1894, pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaernarfon. Hwn oedd y tro cyntaf i aelodau’r Orsedd wisgo mewn gwisg o wahanol liwiau, gan ddynodi eu maes cyflawniad. 

Nid yw David yn cael ei ystyried yn fardd arwyddocaol - mae ei weithiau'n dilyn ffasiwn hirwyntog beirdd eisteddol ar y pryd - ond fel Archdderwydd ac fel beirniad roedd parch mawr iddo yng nghymdeithas Cymru yn chwarter olaf y 19eg ganrif.

Gyda diolch i W Gwyn Lewis a Chymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1AG    Map

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button