Safle'r llyfrgell sir gyntaf yng Nghymru, Caernarfon
Safle'r llyfrgell sir gyntaf yng Nghymru, Caernarfon
Daeth yr adeilad hwn, Plas Llanwnda, yn llyfrgell sirol gyntaf yng Nghymru ym 1918. O'r fan hon, anfonwyd llyfrau i ysgolion ledled yr ardal wledig.
Roedd Plas Llanwnda, a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, yn gartref i rai o bobl gyfoethocaf y dref yn y gorffennol. Ganwyd Lionel Rees yma a dddyfarnwyd y Groes Victoria am ei gampau fel peilot ymladdwr ym 1916 ac a hwyliodd yr Iwerydd ar ei ben ei hun.
Roedd Robert John Fanning, archwilydd Llysoedd Sirol Caer a Gogledd Cymru, yn byw yma cyn iddo foddi mewn damwain forwrol ar Gulfor Menai ym 1893. Cynhaliwyd gwasanaeth angladd iddo ef a’r Is-gapten Walter Davies, a oedd hefyd wedi boddi, yma yn Plas Llanwnda cyn claddu’r ddau ym Mynwent Llanbeblig.
Roedd llyfrgell gyhoeddus gyntaf Cymru wedi’i sefydlu ym 1862. Yn raddol, agorodd eraill mewn amryw o drefi, gan gynnwys Caernarfon ym1887, ond dim ond bwrdeistrefi a phlwyfi a ddarparai lyfrgelloedd nes i’r gyfraith gael ei newid ym 1919 i alluogi siroedd i wario arian trethdalwyr ar lyfrgelloedd. Fodd bynnag, sefydlodd ychydig o gynghorau sir lyfrgelloedd cyn 1919 gan ddefnyddio cyllid allanol, a Sir Gaernarfon oedd y cyntaf yng Nghymru.
Derbyniwyd arian gan Ymddiriedolaeth Carnegie y Deyrnas Unedig (CUKT) i sefydlu llyfrgell a fyddai’n rhoi mynediad i drigolion gwledig i lyfrau llyfrgell. Roedd yr ymddiriedolaeth - a ariannwyd gan y barwn dur o Efrog Newydd, Andrew Carnegie - yn cynnig £400 o gyllid y flwyddyn am bum mlynedd, ar yr amod bod y sir yn dod o hyd i ffynonellau arian eraill.
Arweiniwyd y fenter gan bwyllgor dan gadeiryddiaeth William George o Criccieth, brawd y Prif Weinidog David Lloyd George. Prydlesodd y pwyllgor Plas Llanwnda fel cartref y llyfrgell newydd, ac ar 17 Tachwedd 1918 rhannwyd y llyfrau cyntaf rhwng ysgolion y sir.
Y llyfrgellydd cyntaf oedd TO Jones, a oedd yn adnabyddus ar y pryd fel y dramodydd Gwynfor. Roedd wedi ennill cystadleuaeth ddrama Genedlaethol yr Eisteddfod. I baratoi ar gyfer ei rôl newydd, ymwelodd â systemau llyfrgelloedd Lloegr a mynychu cwrs ar gyfer llyfrgellwyr yn Aberystwyth.
Roedd ei ddyletswyddau'n cynnwys cynghori plant ar ba fathau o lyfrau fyddai'n addas ar eu cyfer.
Dychwelwyd neu adnewyddwyd llyfrau bob deufis. Roedd y CUKT yn cadw llygad barcud ar y llyfrgelloedd yr oedd yn eu hariannu. Yn 1923 rhoddodd £600 arall i lyfrgell sirol Sir Gaernarfon. Talodd hyn am fwy o staff a chynnydd cyflog i'r llyfrgellydd sir, ar yr amod iddo fabwysiadu'n llawn y pwerau a roddwyd i gynghorau sir yn Neddf Llyfrgelloedd 1919.
Gyda diolch i Rhiannon a Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon
Cod post: LL55 1SE Map