Safle swyddfa papur newydd yr Herald, Caernarfon

slate-plaque
Old photo of Y Maes showing Brunswick Buildings
Y Maes ym 1894, efo Adeiladau Brunswick ar y chwith
Royal Collection Trust / © Her Majesty Queen Elizabeth II 2021

Safle swyddfa papur newydd yr Herald, Caernarfon

Yn y gornel hon o’r Maes safai Adeilad Brunswick - ond mae llawer o bobl yng Nghaernarfon yn ei gofio fel y “C’narfon and Denbi”. Roedd yn gartref i swyddfa'r Carnarvon and Denbigh Herald.

Erbyn 1834 Gwesty'r Castell oedd y prif adeilad yr ochr hon i’r Maes (Sgwâr y Castell). Codwyd pedwar tŷ cyfagos tuag at y castell ond dim ond un yr ochr hon i'r gwesty, er y cynlluniwyd pedwar. Gadawodd hynny le gwag, lle codwyd Adeilad Brunswick tua 1850. Daeth yn swyddfa papur newydd ym 1906.

Y Carnarvon Herald oedd papur newydd cyntaf y dref, a sefydlwyd ym 1831 gan Richard Preece, tad y peiriannydd trydanol Syr William Preece. Roedd yn bapur wythnosol Saesneg ac fe’i ailenwyd yn Carnarvon and Denbigh Herald wrth i’w ardal gylchrediad ehangu ledled Gogledd Cymru. Roedd yn gwrthbwyso o leiaf un papur newydd a ariannwyd gan yr uchelwyr ac yn aml yn ochri â phobl gyffredin. Er enghraifft, ym 1850 cyhuddodd y Barwn Penrhyn 1af o feddiannu'r lan o dan Gastell Penrhyn ac erlid pobl dlawd am “dresmasu dibwys” yno.

Photo of mastheads of Herald newsapers of 1906

Sefydlwyd chwaer bapur Cymraeg, Yr Herald Cymraeg, ym 1855 ac yn fuan roedd yn drech na'r papur Saesneg. Rhwng 1836 a 1857, cynyddodd nifer y papurau newydd a'r cylchgronau a werthwyd yng Nghaernarfon 70%, yn bennaf oherwydd bod ysgolion Sul y capel yn dysgu pobl i ddarllen.

Mae’r ddelwedd ar y chwith, diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dangos penawdau y papurau ym 1906, pan oedd hysbysebion ar dudalennau blaen yn dal i fod yn hytrach na newyddion.

Cynhyrchwyd papurau newydd eraill yma hefyd, gyda rhai yn y pen draw yn cael eu huno â'r teitlau hŷn. Arhosodd papurau newydd Grwp yr Herald yma nes i’r adeilad gael ei ddryllio gan dân yn 1984. Yn ddiweddarach, codwyd tri tŷ â siopau ar y llawr gwaelod ar y safle, yn yr un arddull â’r tai gwreiddiol.

Mae'r Caernarfon and Denbigh Herald yn dal i gael ei gyhoeddi gan Reach Plc, perchennog y Daily Post a llawer o bapurau newydd eraill. Gallwch ddod o hyd i rifynnau wedi'u digideiddio o bapurau newydd yr Herald cyn 1920 ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gweler y ddolen isod.

Gyda diolch i Clive James, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon, ac i Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol am yr hen lun

Cod post: LL55 2NN    Map

Archif Papurau Newydd Cymru - gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwefan y 'Caernarfon and Denbigh Herald' (Facebook)

Tour button for Caernarfon words and music tour Navigation previous buttonNavigation next button