Gweddillion Castell Caerffili

Gweddillion Castell Caerffil

Dyma’r mwyaf o gestyll niferus Cymru, ac mae’n cynnwys system ffosydd amddiffynol helaeth. Byddai pontydd dros y dŵr yn cael eu codi yn ystod ymosodiad. Mae waliau a thyrau mewnol y castell wedi'u hamgylchynu gan y ward ganol, a amgylchir gan yr amddiffynfeydd allanol.

Aerial view of Caerphilly Castle in 1947
Castell Caerffili ym 1947, trwy garedigrwydd y CBHC a'i wefan Coflein

Adeiladwyd y castell rhwng 1268 a 1271 gan Gilbert de Clare, dyn pengoch. Ef oedd Arglwydd Morgannwg y Normaniaid ac roedd yn poeni am gryfder y gefnogaeth yn yr ardal hon i Llywelyn ap Gruffudd, tywysog brodorol olaf Cymru. Daeth y castell yn ganolfan weinyddol teulu de Clare ar gyfer Morgannwg. Ehangodd mab-yng-nghyfraith Gilbert, Hugh Despenser, Neuadd Fawr y castell yn y 1320au ar gyfer adloniant ar raddfa fawreddog.

Roedd y dref farchnad y tu allan i'r castell yn rheoli masnach yr ardal ond nid oedd wedi'i hamgylchynu gan y waliau amddiffynnol sy'n gyffredin mewn trefi castell Cymreig eraill. Ymosodwyd ar y dref a'i difrodi fwy nag unwaith, a'i dinistrio i raddau helaeth yn 1316 gan y gwrthryfelwyr Llywelyn Bren.

Llochesodd y Brenin Edward II yn y castell ym 1326 tra’n ffoi rhag erledigaeth gan y Frenhines Isabella, ei wraig! Wedi i Edward a Hugh Despenser, ei gynghorydd, ffoi o Gastell Caerffili, cawsant eu dal yn y pen draw a diorseddwyd Edward.

Yn y 14eg ganrif, symudwyd sesiynau llys barn o’r castell i adeilad newydd, sydd bellach yn dafarn.

Nid oedd y castell yn cael ei ddefnyddio erbyn oes y Tuduriaid. Roedd yn ffynhonnell ddefnyddiol o gerrig nadd ar gyfer adeiladau lleol, gan gynnwys Plasty Van (i'r dwyrain o'r dref).

Diflannodd y ffosydd ar ôl i'w hargaeau fynd yn adfael. Llifai Nant y Gledyr, a oedd wedi cyflenwi'r dŵr, heibio’r castell ar yr ochr ddeheuol, lle roedd yn pweru melin wlân.

Dechreuwyd y gwaith adfer gan deulu Bute o Gastell Caerdydd. Yn y 19ed ganrif roedd to eto ar y Neuadd Fawr. Fe wnaeth gwaith mawr yn y 1930au gadw neu ailadeiladu'r waliau a'r tyrau ond heb effeithio ar y twr ar ogwydd eiconig, sy'n rhoi cipolwg i ni ar strwythur gwreiddiol y castell. Efallai bod y twr wedi'i adeiladu ar sylfeini ansefydlog neu wedi'i ddifrodi'n fwriadol yn ystod Rhyfel Cartref yr 17eg ganrif er mwyn atal defnydd amddiffynnol o'r castell yn y dyfodol. Mae'n gwyro ar ongl fainach na Thŵr Pisa yn yr Eidal!

Fe wnaeth Ardalydd Bute hefyd glirio siopau ac adeiladau eraill a safai yn agos at y castell. Paratodd hyn y ffordd i'r ffosydd gael eu hail-orlifo ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion a Hynafol Cymru, yn dangos y castell ym 1947, gyda'r ffos ogleddol wedi'i hail-lenwi eisoes a Nant y Gledyr ger gwaelod y ddelwedd. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Heddiw mae'r castell yng ngofal Cadw - dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth ymweld.

Cod post: CF83 1JD    Map

Manylion Castell Caerffili ar wefan Cadw

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

button-tour-caerphilly-customs Navigation previous buttonNavigation next button