Capel Bethlehem, Pwll-trap, Sanclêr
Cafodd y capel Annibynnol hwn ei ailadeiladu a’i adnewyddu sawl gwaith wrth i’r gynulleidfa gynyddu. Ym mynwent y capel hwn yn 1813 y cynhaliwyd yr angladd Fwslemaidd gynharaf i’w chofnodi yng Nghymru – gweler isod.
Mae’r dyddiadau ar flaen y capel yn nodi iddo gael ei adeiladu yn 1765, ei ehangu yn 1785, ei adnewyddu yn 1833. Gosodwyd seddau newydd yn 1871 a’i adnewyddu – gan wneud llu o welliannau – yn 1909. Diolch i Bruce Wallace am y llun c. 1900 sy’n dangos wyneb cynharach.
Ar Sul ym mis Rhagfyr 1895 teithiodd y Parch. T Miles Evans o Abergwili i’r capel er mwyn cynnal gwasanaeth yr hwyr. Wrth iddo ddod o’r cerbyd y tu allan i’r capel, llithrodd y ffrwyn a pheri dychryn i’r ceffyl. Taflwyd y gweinidog o ris y cerbyd a’i fwrw yn erbyn polyn telegraff. Holltwyd ei benglog a bu farw dridiau’n ddiweddarch.
Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, gwnaed gwelliannau i adnoddau’r capel ar gyfer gwasanaethu’r gymuned. Er mis Medi 2024 mae gwasanaethau’r Sul yn cychwyn am 10.30am ac eithrio ar drydydd Sul y mis. Ac mae clwb croeso’r capel yn cynnig gwahoddiad i bawb alw heibio am ychydig o luniaeth a sgwrs bob dydd Mawrth rhwng 10.30am a 12.30pm.
Nid oes gan bob capel yng Nghymru fynwent ond ceir mynwent helaeth yma. Dyma lle y claddwyd Amelia Kadija Baksh yn 1893 – y gladdedigaeth Fwslemaidd gyntaf i’w chofnodi yng Nghymru. Mae’r llun yn dangos ei bedd, ac yn y cefndir wal ddeheuol y fynwent.
Ganed Amelia, merch Mr a Mrs Joseph Davies, y Bush, Sancler yn 1867. Roedd hi’n byw yn Llundain erbyn 1891. Yno cyfarfu â Sheikh Meeran Buksh, aelod o deulu amlwg a chyfoethog a hannai o India. Roedd ef yn astudio’r gyfraith yn Llundain. Daeth Amelia’n Fwslim a phriododd y ddau yn 1891 ym mosg Lerpwl, yr unig fosg yn y Deyrnas Gyfunol ar y pryd. Bu hi farw ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 26 oed. Roedd nifer sylweddol yn bresennol yn yr angladd yng nghapel Bethlehem, er y glaw trwm.
Yn ôl yr academydd Abdul-Azim Ahmed o Brifysgol Caerdydd, mae’n ymddangos bod y gymuned wedi gallu derbyn bod Amelia wedi troi’n Fwslim ac yn cael ei chladdu dan ei henw Mwslemaidd sef Kadija. Mae ef yn awgrymu fod y traddodiad Anghydffurfiol Cymreig, yn ystyried Islam, o bosibl, yn wedd ddiwygiedig ar Gristnogaeth.
Diolch i Abdul-Azim Ahmed o Brifysgol Caerdydd, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA33 4AN Map
Mwy am Amelia Kadija Baksh – gwefan Prifysgol Caerdydd