Capel Coch, Llanberis

Capel Coch, Llanberis

Early photo of Capel CochAdeiladwyd y Capel hwn ym 1893, gan ddisodli Capel cynharach (a welir yn y llun isod). Daeth Methodistiaeth i ardal Llanberis mor gynnar â 1742. Cafwyd adfywiad ysbrydol yn 1762, ac erbyn 1765 roedd Llwyncelyn (ar y llethrau uwchlaw’r Capel presennol) yn ganolfan i’r Methodistiaid, a chynhelid yno gyfarfodydd gweddi ac ambell bregeth gan gwmni cymharol fychan o addolwyr. Yn 1770, tua 16 o aelodau oedd i’r seiat hon yn Llwyncelyn. Yn y man, trodd y ‘seiat’ yn ‘eglwys’ a phenderfynwyd codi capel, yma yn nes at lawr y dyffryn ar dir Llwyncelyn. Cafodd y capel ei enw o’r Afon Goch gerllaw.

Gwelir chwe dyddiad ar flaen y Capel: 1777, codi’r capel cyntaf; 1802, ei adnewyddu; 1834, ei helaethu; 1846, dymchwel y capel cyntaf a chodi’r ail; 1864, helaethu’r ail gapel; 1893, adeiladu’r capel presennol wedi dymchwel yr ail.

Erbyn hyn, gwerthwyd y prif gapel. Yr ysgoldy neu’r festri a godwyd yn 1909 yw’r Capel bellach, a chartref yr eglwys weithgar sy’n rhan o Ofalaeth Fro’r Llechen Las. Ceir manylion llawn am oedfaon a chyfarfodydd yr eglwys ar wefan yr Ofalaeth – gwelwch isod.

Photo of the previous Capel CochCapel Coch oedd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn yr ardal. Rhwng 1825 a 1882, sefydlwyd saith eglwys eraill, un ai gan eglwys Capel Coch neu gan yr eglwysi a ffurfiwyd ganddi: Dinorwig; Rehoboth yn Nant Peris; Hebron; Clegir; Fachwen; a Gorffwysfa a Preswylfa yn Llanberis. Erbyn hyn, y ‘fam eglwys’ yn Capel Coch yw’r unig un sy’n aros. 

Ymunodd eglwysi Preswylfa, Gorffwysfa a Chapel Coch yn Capel Coch yn 1982, ac ymunodd eglwys Rehoboth hefyd â’r eglwys yn Capel Coch ddiwedd 2018.

Diolch i’r Parch John Pritchard am yr wybodaeth uchod.

Cofiodd y chwarelwr Gwilym Roberts c.1980 fod ei fam yn byw yn Nhŷ Capel Coch (ei thad oedd gofalwr y Capel) adeg adfywiad Cristnogol 1904. Roedd hi wedi dweud wrtho fod chwarelwyr mor frwd fel y byddai gwragedd y rhai a drigai tu allan i Lanberis yn cwrdd â'u gwŷr ar ôl gwaith mewn cae ger Capel Coch. Aeth y gwragedd â bwyd a diod i'r dynion, a aeth wedyn i'r afon er mwyn golchi i ffwrdd llwch a chwys y dydd cyn mynd i mewn i'r Capel.

Cod post: LL55 43N    Map

Gwefan Gofalaeth Fro’r Llechen Las

button-tour-town-quarry Navigation next buttonrubber_bullet