Adfeilion Capel Hebron, Cwm Brwynog
Adfeilion Capel Hebron, Cwm Brwynog
Capel Coch yn Llanberis oedd yr un fynychai’r trigolion cyn codi’r capel yma ond roedd rhyw dri chwarter awr o daith yno.
Capel Calfinistaidd oedd o a godwyd yn 1833 a’i wella’n 1859 ac yna eto yn 1871. Cyfaill gapel i Gapel Coch yn Llanberis. Ond rhyw 120 allai ei ddal yn y capel bach yma rhyw 900 troedfedd (275m) uwch y môr.
Hwn oedd yr unig adeilad cymunedol i’r dyffryn ac felly’n bwysig i’w bywydau y tu allan i’w bwysigrwydd fel addoldy. Yma y traddodir popeth pwysig nid yn unig gwasanaethau’r Sul. Roedd 'na dŷ capel i’r gofalwr ger llaw. Yn 1887 dim ond 31 aelod oedd yn y gynulleidfa, 50 yn 1887 a dim ond 44 erbyn 1900. Caewyd y capel yn 1958.
Yn 1899 disgrifiwyd y ffyddloniaid, er yn fach, yn hynod deyrngar. Ar ei gryfhaf roedd yma 120 o aelodau.
Y record gyntaf o’r cwm oedd fel sefydliad yn Combroinok ym map 1352 a lle y gwelir olion sawl tŷ crwn yn uwch i fyny tua’r hanner ffordd (i gopa’r Wyddfa).
Crafu bywoliaeth o’r tir oedd y trigolion gan ychwanegu at eu bywoliaeth drwy fwyngloddio copr. Mae’r mynyddoedd cyfagos yn llawn twneli mwynfeydd copr. Un o’r gweithwyr oedd Thomas Williams o Tŷ’n yr Aelgarth (tŷ uchaf ar Eryri ac yn dal yn dŷ haf ers dros hanner canrif). Roedd amryw hefyd yn gweithio mewn mân chwareli o gwmpas y lle. O agor chwarel Dinorwig, yno roedd y tyddynwyr yn gweithio gan fo’r tal cymaint gwell.
Y record gyntaf o Ysgol Sul yma oedd yn 1816 gan ddangos eu bod a chofnodion cyntaf yn 1820.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe sefydlodd y fyddin ysgol saethu yma gan ddefnyddio drws y capel fel targed. Yma deuai fechgyn Llanberis i chwilio am getris pres yn y danfa i’w defnyddio fel diffoddyddion i spilsennau tanwyr tân.
Y Parch R Bryn Williams oedd yn weinidog yma a doedd o ddim yn hapus iawn a’r fyddin ac fe gyfansoddodd gerddi i’r perwyl. Fe osododd Hogia’r Wyddfa ei gerdd i’r cwm yn un o’i recordiadau. Roedd y Parch yn enedigol o Blaenau Ffestiniog ac ymfudodd ei deulu i Batagonia pan oedd yn 10 oed. Daeth yn ôl i’r brifysgol ym Mangor a chymhwyso fel Gweinidog. Yn 1975 fe ddaeth yn Archdderwydd Cymru.
Yn 1958 dad gysegrwyd y capel a’i gau ond rhaid bu cynnal y gwasanaeth olaf y tu allan gan na ddaeth yr allwedd i’r golwg.
Rhoddodd Stad y Faenol y capel ar werth ac fe’i gwerthwyd i ddyn o Staffordshire am £475 mewn gwerthiant yng ngwesty’r Royal yng Nghaernarfon. Ei fwriad oedd creu cwt dringo ond wnaeth o ddim gwaith o gwbl i’r adeilad. Fe gysylltodd Ken Jones, hanesydd lleol, ag o yn Ionawr 1994 ar fwriad o brynu’r adeilad. Cytunwyd ar bris o £3,500 ond fe dynnodd y perchennog yn ôl am ryw reswm.
Bwriad Ken oedd ei gadw yn ei gyflwr presennol fel adnodd i’r gymuned gyda chymorth parod y Parc Cenedlaethol. Ond dim dyna fu ac fe ddinistriodd gerwinder tywydd Eryri'r adeilad.
Diolch i Ken Jones a Bob Jones, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Mwy o hanes y Parch R Bryn Williams – ffeil pdf o wefan Eco’r Wyddfa