Pont Aberteifi

Pont Aberteifi

Drawing of Cardigan bridge c1740Bu pont dros afon Teifi ers canrifoedd lawer. Mae Gerallt Gymro yn sôn amdani yn nyddiadur ei daith trwy Gymru yn 1188 (gweler isod).

Roedd y pontydd pren cynnar yn hawdd i’w difrodi gan rym llif yr afon. Dinistriwyd un yn y drydedd ganrif ar ddeg ac un yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae cofnod bod pont bren yma yn 1598.

Credir i’r bont bresennol o gerrig gael ei chodi’n gynnar yn y ddeunawfed ganrif. Codwyd un bwa yn 1726 yn ôl y llechen sydd uwchben y bwa hwnnw. Mae’r darlun yn dangos y bont c.1740.

Wrth i drafnidiaeth gynyddu ehangwyd y bont yn y 1870au. Gellir gweld bwâu o’r ddeunawfed ganrif wrth groesi’r bont droed fodern.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y bont yn 1932. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Photo of Cardigan Bridge in 1932
Aberteifi a'r bont yn 1932, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Cyrhaeddodd Gerallt Gymro Aberteifi ar 30 Mawrth 1188 gyda Baldwin, Archesgob Caergaint. Roedden nhw’n teithio trwy Gymru i recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Nododd Gerallt fod torf wedi casglu mewn cae i’r de o’r bont. Roedd yr Arglwydd Rhys a’i feibion Maelgwn a Gruffydd ymysg y dorf. Pregethodd Baldwin a Gerallt (Archddiacon Aberhonddu) a chael perswad ar nifer i “gymryd y Groes” (sef listio ar gyfer y groesgad). Unig fab i’w fam oedd un ohonyn nhw. Er bod ei fam oedrannus yn ddibynnol arno, diolchodd hi i Dduw ei bod wedi ei barnu’n deilwng i godi mab a gafodd ei dderbyn i’w wasanaethu Ef.

Rhwystrodd un wraig ei gŵr rhag ymuno trwy ddal gafael yn ei glogyn a’i wregys! Dair noson yn ddiweddarach, clywodd lais yn ei rhybuddio mewn breuddwyd y byddai’n colli yr hyn oedd fwyaf annwyl iddi. Dyna’r gosb am iddi atal “fy ngwas”. Yn y bore gwelodd ei bod wedi gorwedd ar ben ei mab bychan a’i fogi. Barn Gerallt oedd bod y wraig yn fyrbwyll i adael i’r bachgen gysgu yn ei gwely. Derbyniodd y gŵr y Groes yn ddiymdroi. Gwnïodd ei wraig arwydd y groes ar ei ysgwydd.

Noda Gerallt fod llawer o gleifion wedi ymweld â’r man lle y bu Baldwin yn pregethu a bu llawer o wyrthiau. Bwriadai’r bobl leol adeiladu capel yn y cae gan roi’r allor yn yr union fan lle y safodd Baldwin.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA43 1HY    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button