Adfeilion Castell Caerfyrddin

tour logo and link to information pageAdfeilion Castell Caerfyrddin

Bu’r castell hwn dan warchae, cafodd ei amddiffyn ac ymosodwyd arno sawl gwaith yn ystod y canol oesoedd; yn yr 17eg ganrif cafodd ei ddymchwel yn rhannol fel na fyddai modd gwneud defnydd ohono yn ystod y Rhyfel Cartref. Yma, yn y 15fed ganrif, bu farw Edmwnd Tudur, tad Harri VII, yn fuan ar ôl ei garcharu gan y Iorciaid.

carmarthen_castle_and_townEsblygodd safle’r castell o fod amddiffynfa mwnt a beili a godwyd yn 1109. Mae’n debygol fod castell o gerrig wedi’i adeiladu yma cyn iddo gael ei gipio gan Llywelyn Fawr, tywysog cyntaf Cymru yn 1215. Bu’r castell yn ei feddiant tan 1223 pan ddaeth yn eiddo i goron Lloegr. O 1280 ymlaen dyma bencadlys swyddogol llywodraeth De Cymru. Yn 1405 cipiwyd y castell gan wrthryfelwyr a oedd yn cefnogi Owain Glynd┼Ár.

Yn 1456 anfonodd y brenin Harri VI ei hanner brawd, Edmwnd Tudur, i ailsefydlu awdurdod y goron yn Ne Cymru. Wedi iddo ennill y castell a’i benodi’n geidwad, carcharwyd Edmwnd gan Syr William Herbert ac eraill a oedd yn cefnogi Richard o Efrog. Roedd Richard yn ei ganfod ei hun yn etifedd i’r orsedd ac, mewn enw, yn gwnstabl ar y castell.

Ac yntau’n 25 oed, bu farw Edmwnd yng Nghaerfyrddin ar 3 Tachwedd 1456, o bosibl o ganlyniad i salwch, haint neu oherwydd iddo gael ei gamdrin yn y carchar. Claddwyd ef ym Mhriordy’r Brodyr Llwydion yn y dref cyn ei symud i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Roedd ei wraig Margaret Beaufort yn feichiog â’u mab Harri, sylfaenydd llinach y Tuduriaid. Ganwyd Harri ar 28 Ionawr 1457 a threuliodd ran o’i blentyndod dan ofal Syr William Herbert. Cafodd ei fagu gyda phlant Syr William yng nghastell Rhaglan, ac yna bu’n alltud yn Ffrainc gyda Jasper, brawd Edmwnd.

Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, rheolwyd castell Caerfyrddin gan Syr Rhys ap Thomas, prif ustus De Cymru. Bu ei gefnogaeth ef yn allweddol i fuddugoliaeth Harri Tudur dros y brenin Richard III ym mrwydr Bosworth yn 1485.

Yn y 18fed ganrif codwyd carchar newydd o fewn y castell, a oedd erbyn hynny yn adfeilion. Ehangwyd y carchar yn ddiweddarch tan iddo lenwi safle’r castell fwy na heb. Ymddangosodd copi o’r llun uchod o’r castell a’r dref (a welir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn llyfrau Thomas Pennant am Gymru tua diwedd y 18fed ganrif.

Yn y 1930au defnyddiwyd rhan o safle’r carchar ar gyfer codi Neuadd y Sir, sef pencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin. Y tu mewn i adfeilion y castell mae Castle House, sydd ar hyn o bryd yn ganolfan gwybodaeth dwristaidd.

Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA31 1JP    Map

Gwefan Castle House