Maes Hamdden y Castell, Crughywel

PWMP logoMaes Hamdden y Castell, Crughywel

crickhowell_christopher_james

Cafodd y gofod agored mawr o gwmpas adfeilion castell canoloesol Crughywel ei brynu a’i roi i’r gymuned er cof am Christopher Bowring James (yn y llun ar y dde), a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyn y rhyfel, roedd cyngor y plwyf wedi rhentu’r castell a’r cae o’i gwmpas ar brydles gan Ddug Beaufort gan agor yr ardal i’r cyhoedd ei defnyddio at ddibenion hamdden. Gwerthwyd llawer o eiddo’r Dug ym 1915 ac roedd mynediad y cyhoedd i diroedd y castell yn ansicr ar ôl hynny. Ym mis Gorffennaf 1918, prynodd Gwilym Cristor James y tiroedd am £350 fel y gallai eu rhoi i’r dref er cof am ei fab Christopher.

Wedi’i addysgu yn Eton a Rhydychen, rhwyfwr penigamp oedd “Christie” a daeth yn bartner ym mhractis cyfreithiol ei dad ym Merthyr Tudful. Bu’n gwasanaethu fel lefftenant yng Nghyffinwyr De Cymru ac fe’i hanafwyd 20 Tachwedd 1917 ym Mrwydr Cambrai (lle defnyddiwyd tanciau’n llu am y tro cyntaf mewn rhyfel). Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach yn 35 oed.

Yn y 1880au, AS dros Fwrdeistrefi Merthyr oedd tad Gwilym, Charles. Roedd Gwilym  yn gyfreithiwr ym Merthyr am bron i hanner canrif cyn iddo ymddeol i Lanwysg, ger Llangatwg, ym 1912. Bu’n dal llawer o swyddi dinesig gan gynnwys Uchel-Siryf Sir Fynwy.

Ar ôl i gonsgripsiwn (gwasanaeth gorfodol yn y lluoedd arfog) ddechrau ym mis Ionawr 1916, y cynrychiolydd milwrol oedd Gwilym ar y tribiwnlysoedd rhanbarthol yng Nghrucywel a Brynmawr a fu’n dyfarnu ar apeliadau – lle byddai unigolion, perthnasau neu gyflogwyr yn cyflwyno dadleuon dros eithrio rhai dynion rhag mynd i’r rhyfel.

Roedd cyd-aelodau Gwilym ar y tribiwnlysoedd yn cynrychioli buddiannau eraill, gan gynnwys amaethyddiaeth. Yn aml, collai’r bleidlais yng Nghrucywel gan gwyno bod aelodau eraill yn rhy drugarog. Pan fynegodd rwystredigaeth debyg fel ymwelydd â Thribiwnlys Ystradgynlais cafodd gerydd a gadawodd yr adeilad mewn diflastod!

Gyda diolch i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Map

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cymerwch y llwybr troed tua’r gogledd at y briffordd, troi i’r chwith ac yna i’r chwith eto wrth gyrraedd y Stryd Fawr. Mae’r Gyfnewidfa Ŷd ar y gornel
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button