Cei Balast, ger Porthmadog

Cei Balast, ger Porthmadog

porthmadog_cei_balast_viewYr ynys y gallwch ei gweld dros y dŵr yma yw'r lle mwyaf cosmopolitaidd yng Nghymru, gan ei bod wedi ei gwneud o greigiau a graean o bedwar ban byd! Gallwch weld a thrafod creigiau o’r ynys yn Amgueddfa Forwrol Porthmadog.

Roedd llongau a gludai llechi o Borthmadog fel arfer yn dychwelyd yn wag. Ar gyfer sefydlogrwydd ar y môr wrth iddynt ddychwelyd, cawsant eu llwytho'n rhannol â charreg. Gelwid y llwyth hwn yn falast, ac roedd yn cynnwys pa bynnag greigiau, tywod, graean neu rwbel adeiladu oedd ar gael yn y porthladd.

Ar ôl cyrraedd Porthmadog, dadlwythodd y llongau eu balast. Cafodd y domen wreiddiol wrth fynedfa'r harbwr ei lefelu ym 1862 a throsglwyddwyd y tipio i safle tywodlyd i'r dwyrain o all-lif afon Glaslyn. Yn fuan daeth tyfodd y dyddodion yn ynys. Fe wnaeth tri brawd – Joseph, John ac Evan Lewis – adeiladu a chynnal cei yno er mwyn i longau ddadlwytho.

porthmadog_cei_balast_with_crane“Lewis’s Island” yw’r enw ar yr ynys a welir ar fapiau Fictoraidd ond fe’i gelwid yn Cei Balast yn gyffredin a’i nodi ar fap 1901 fel “Ballast Bank”.

Rhedai’r cei ar hyd yr ochr orllewinol ac roedd craen stêm yno, ar gyfer dadlwytho llongau. Dosbarthwyd y balast gan ddefnyddio tramffordd (rheilffordd gyntefig) i weddill yr ynys. Roedd gan yr ynys stordy a thŷ i weithredwr y craen – Evan Roberts yn yr 1890au – a’i deulu. Ariannwyd y gweithredu gan daliad am bob llong a ddadlwythai yno – £3 yn achos llong o'r enw Blodwen ym 1899.

Ym 1877 adeiladodd y perchnogion ddoc ar ffurf grid (“grid iron”) wrth lanfa'r balast. Gorffwysai llongau ar y grid fel y gallai gweithwyr fynd oddi tanynt ar lanw isel i gael gwared ar wyddau môr a gwrthrychau eraill (a fyddai’n arafu symudiad y llong ar y môr).

I'r gorllewin o’r ynys mae iard Gwerthu Cychod Madog yn meddiannu cyn-lanfeydd llechi, sydd i'w gweld ar y chwith yn y llun uchaf – sydd hefyd yn dangos yr ynys a thynfad stêm yn tynnu llong hwylio. Roedd y sianel rhwng y glanfeydd a'r ynys yn ddwfn, a byddai llongau hwylio yn llawn llechi yn aros yno am wynt teg. Mae'r llun isaf yn dangos cwpl o longau wedi'u hangori yn y sianel, gyda chraen stêm yr ynys ar y chwith.

Gyda diolch i Amgueddfa Forwrol Porthmadog am y lluniau

Cod post : LL49 9AY     Map

Gwefan Amgyeddfa Forwrol Porthmadog

Gwefan Madog Boat Sales

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button