Hen gartref Val Feld, Caernarfon

slate-plaque
button-theme-women

Hen gartref Val Feld, Caernarfon

Photo of Val Feld as a childGanwyd Valerie Breen Turner ym 1947 ym Mangor, yn ferch i Jim, deintydd yng Nghaernarfon, a'i wraig Eve, aelod gweithgar o'r gymuned. Roeddant yn byw yma, ym Mhen-y-Bryn. Addysgwyd hi yn lleol ac yn Ysgol yr Abaty, Malvern Wells. Treuliwyd plentyndod Val yn nofio, cerdded yn Eryri a meithrin cariad at ddarllen.

Mae’r lluniau, trwy garedigrwydd Jill Turner, yn dangos Val yn ei phlentyndod ac yn 16 mlwydd oed.

Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn Llundain yn y BBC ac ITN a phriododd John Feld ym 1969. Fe symudon nhw i Chorley, Sir Gaerhirfryn, a chael dwy ferch. Daeth Val yn gynghorydd a gweithiwr hawliau lles a thai. Pan chwalodd ei phriodas, teimlai Val alwad 'hiraeth' a dychwelodd i Gymru gyda'i phlant yn 1981. Bu’n allweddol yn sefydlu Shelter Cymru ac yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr Shelter Cymru yn Abertawe.

Yn 1989 fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru, gan hyrwyddo hawliau menywod a grwpiau lleiafrifol. Roedd hi'n ymrwymedig iawn i hawliau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a chwblhaodd MA mewn Astudiaethau Menywod yng Nghaerdydd.

Portrait of Val Feld in July 1964Roedd Val yn drysorydd yr ymgyrch 'Ie dros Gymru', gan chwarae rhan hanfodol yn natganoli Cymru, gan hyrwyddo'r ymgyrch yn ddiflino. Gwelodd lywodraeth ddatganoledig fel cyfle i ddarparu cymdeithas decach i Gymru a chwaraeodd ran allweddol wrth sicrhau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol gynrychiolaeth deg o fenywod.

Yn 1999 etholwyd Val yn AC Llafur dros Ddwyrain Abertawe ac roedd yn gadeirydd y pwyllgor Datblygu Economaidd o’r hydref hyd at ei marwolaeth gynamserol yn 2001.

Roedd Val yn aelod uchel ei pharch o'r Cynulliad Cenedlaethol, yn cael ei pharchu gan bob plaid am ei synnwyr o degwch. Fe’i chofir am ei gwaith ymroddedig yn hyrwyddo hawliau menywod a materion cydraddoldeb.

Yn 2018 dyfarnwyd y plac porffor cyntaf ar gyfer merched Cymreig rhyfeddol i Val. Mae wedi'i leoli ar adeilad y Senedd.

Gyda diolch i Jill Turner (chwaer Val) ac i Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 1BH    Map

Gwefan Placiau Porffor - mwy am Val a gwragedd eraill