Coed Doctor, Llanberis

Coed Doctor, Llanberis

Bryngwyddfan Hall, sef Alpine Lodge erbyn heddiw, oedd meddygfa’r pentref a dyna sut yr enwyd y goedlan hon. Roedd y coed ar gyrion y feddygfa cyn adeiladu stad Coed y Glyn.

Galwyd ar Dr Lloyd Williams o Bryngwyddfan a’i gynorthwywr y Dr John Roberts at chwarelwyr anafwyd. Hwy â’r Dr Mills Roberts o ysbyty’r chwarel ruthrodd yn 1897 i gynorthwyo bachgen amddifad tua 15 oed, Owen Ellis Williams. Baglodd Owen ar y locomotif lle'r oedd yn stocar ond er eu hymdrechion bu farw o fewn ychydig oriau.

Bu un o’r gweithwyr yn Bryngwyddfan, sef Miss Jones, mor boblogaidd fel iddi gael desg ysgrifennu cneuen Ffrengig (walnut) fel anrheg gadael ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth am y Royal Infirmary yn Lerpwl yn 1908 fel nyrs.

Collodd y Dr Williams ei unig fab, Kelyth Pierce Lloyd Williams, 21 oed, pan ei laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe adawodd Kelyth ei gwrs meddygaeth i wasanaethu fel is-lifftenant (Second Lieutenant) gyda’r Gatrawd Gymreig. Bu farw yn Hydref 1916 a’i gladdu yn Grenay, ger Lille, Ffrainc.

Bryngwyddfan oedd cartref y Dr Douglas Jones ar ôl y rhyfel. Un noson yng ngwyll y dydd ar lethrau’r Wyddfa yn 1933 fe fu i ddynes o Harrow, Llundain, faglu a thorri ei choes ac fe’i alwyd allan ati. Erbyn i’r doctor a’i dywyswyr gyrraedd y fan canfu fod criw achub arall wedi ei chael ai hanfon i’r ysbyty ym Mangor!

Olynwyd Dr Jones yn Bryngwyddfan gan Dr Vernwy Jones, ac yn ei gyfnod ef fe adeiladwyd meddygfa newydd yng nghanol y pentref.

Gyda diolch i Gareth Roberts, o Menter Fachwen, a Ken Jones, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Còd post: LL55 4PX    Gweld Map Lleoliad

Troednodau: Atgofion o feddygon Bryngwyddfan

Mae Gwyndaf Hughes yn cofio: “Roedd Dr Douglas Jones yn ddyn mawr ac rown ei ofn fel plentyn. Fe roedd na rhywbeth o'i le ar ei gar y tu allan i'n ty ni unwaith pan rown i'n rhyw 5 neu 6 oed. Fe gododd gefn y car a rhoi brics dan yr echel gefn i ddal yr olwynion oddi ar y lon. Yna, am rhyw reswm na allai ei ddirnad rhoddodd fracsan ar y sbardun nes i'r car ruo a siglo'n frawychus. Welais i ddim wedyn gan i mam fy ruthro i'r tŷ. 

“Vernwy yn ditw ond yn ddi-Gymraeg - problem yn Llanberis bryd hynny. Vernwy oedd y doctor agorodd y feddygfa newydd.”