Swyddfa Bost Crughywel

PWMP logoSwyddfa Bost Crughywel

crickhowell_post_officeCodwyd yr adeilad hwn ym 1909 ar ôl i’r Swyddfa Bost Gyffredinol dreulio dwy flynedd yn chwilio am adeiladau addas ar gyfer swyddfa bost yn y dre. Rhoddwyd prydles rydd-ddaliadol 99 mlynedd ym 1908 gan yr Arglwydd Glanwysg ar gyfer safle’r swyddfa bost a Clarence Villas cyfagos. Tynnwyd y llun ar y dde, drwy garedigrwydd Chris Lewis, toc ar ôl i’r swyddfa bost agor.

Un o dasgau’r Swyddfa Bost yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd derbyn telegramau swyddogol yn hysbysu teuluoedd lleol am farwolaethau eu hanwyliaid. Ym 1915, dechreuodd Hector Parsons weithio yma fel bachgen telegraff. Roedd yn 14 oed. Arhosodd atgofion am fynd â’r newyddion ynglŷn â cholledion y rhyfel at gartrefi lleol gydag ef am weddill ei fywyd. Collodd ewythr a chefnder yn y rhyfel. Dangosir y llun ohono yn 14 oed ar y chwith yma drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch.crickhowell_hector_parsons

Recriwtiwyd merched i ddosbarthu’r post a thelegramau wrth i’r rhyfel leihau niferoedd y dynion oedd ar gael ar gyfer gwaith o’r fath. Ym mis Mai 1915, cyflogodd Swyddfa Bost Crughywel ei phostmones gyntaf, Miss Dorothy Siers, a negesydd telegraff benywaidd, Miss Lulu Freebury. Hefyd daeth Gwladys Walker yn bostmones yng Nghrucywel yn ystod y rhyfel gan aros yn y swydd tan fis Hydref 1919.

Buasai’r Preifat WE Rumsey o’r Peirianwyr Brenhinol yn glerc yn Swyddfa Bost Crughywel cyn listio. Tra oedd ar ei seibiant o’r fyddin ym mis Ionawr 1916, priododd â Vera Townsend yng nghapel Methodistaidd Dan-y-castell. Aeth y pâr i’r Mwmbwls ar gyfer eu mis mêl.

Ym 1921 cafodd magnel Almaenig a gipiwyd ei gosod ar blinth ger y swyddfa bost.

Gyda diolch i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Cod post: NP8 1AE    Map

 

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch i’r de ar hyd y briffordd. Ewch heibio i Greenhill Way ac ymlaen at y gofeb ryfel
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button