Delw David Lloyd George, Caernarfon

Delw David Lloyd George, Y Maes, Caernarfon

Dadorchuddiwyd y cerflun hwn o David Lloyd George ym 1921, pan oedd yn dal i fod yn Brif Weinidog Prydain.

Fe'i ganed ym Manceinion i rieni o Gymru ym 1863. Bu farw ei dad, a oedd yn ysgolfeistr, ym 1864 a symudodd y teulu i Lanystumdwy, lle'r oedd brawd ei fam yn grydd.

Ar ôl mynychu ysgol Llanystumdwy cafodd ei brentisio i gyfreithwyr ym Mhorthmadog, gan basio ei arholiadau olaf ym 1884. Agorodd bractis ei hun yng Nghricieth a ehangodd yn fuan i drefi eraill. Ymunodd â'r gymdeithas ddadlau leol ac ym 1889, yn 26 oed, enillodd sedd ar Gyngor Sir Caernarfon (newydd ei greu gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888). Yno fe’i h adnabyddid fel y “Bachgen Henadur” - am weddill ei oes!

I'r un sir daeth Lloyd George yn ynad ym 1910, yn gadeirydd y Sesiwn Chwarterol (1929-38) ac yn Ddirprwy Raglaw (1921). Ar ei anogaeth ef, cynhaliwyd arwisgiad Tywysog Cymru yn 1911 yng Nghastell Caernarfon.

Ym 1890 enillodd Lloyd George isetholiad Seneddol o drwch blewyn ar gyfer Bwrdeistrefi Caernarfon, sef bwrdeistrefi Caernarfon, Bangor, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli. Daliodd y sedd fel Rhyddfrydwr tan ddeufis cyn ei farwolaeth ym 1945. Mae Clwb Rhyddfrydwr gynt y dref ychydig i'r gogledd o'r fan hon.

Daliodd swyddi allweddol yn y Llywodraeth: Llywydd y Bwrdd Masnach (1905-1908); Canghellor y Trysorlys (1908-1915); Gweinidog Arfau (1915-1916); a Phrif Weinidog (1916-1922).

Roedd yn ffigwr dadleuol, yn enwedig am ei safiadau ar Ryfel y Boer, Palestina ac annibyniaeth Iwerddon. Er ei fod yn cefnogi pleidleisiau i ferched yn bennaf, roedd yn elyn i'r mudiad swffragét oherwydd ei safiad cyfnewidiol ar y pwnc, ac amharwyd ar ei gyfarfodydd yn aml. Roedd ei fywyd personol yn ffynhonnell clecs ond fe'i cofir yn bennaf fel cychwynnwr y wladwriaeth les ac fel arweinydd Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu farw yn Llanystumdwy ar 26 Mawrth 1945 ac mae wedi ei gladdu ar lan yr Afon Dwyfor. Ei ferch Megan oedd AS benywaidd cyntaf Cymru. Roedd ei mab Gwilym yn Weinidog Bwyd a Phwer yn yr Ail Ryfel Byd ac yn ddiweddarach yn Ysgrifennydd Cartref.

Cafodd y cerflun hwn ei greu gan Syr William Goscombe John a'i ddadorchuddio ar 6 Awst 1921 gan William Hughes, Prif Weinidog Awstralia, a gafodd ei fagu yn Llandudno, gyda'r Fonesig Margaret Lloyd George yn cynrychioli ei gŵr. Mae'r paneli ar y plinth yn darlunio ysgol Llanystumdwy a'r cynhadledd heddwch ym Mharis wedi’r rhyfel ym 1919.

Gyda diolch i Robert Cadwalader

Cod post: LL55 2NN    Map