Cymraeg David Lord VC memorial, Wrexham

Cofeb David Lord VC

Mae'r gofeb yn coffáu dewrder y lefftenant awyrlu David Lord, a dderbyniodd y Victoria Cross ar ôl ei farwolaeth ym 1944. Mae plac er cof amdano wedi ei leoli yn Eglwys Gadeiriol y Santes Fair, Wrecsam.

Cafodd ei eni yn Cork yn 1913 i Samuel Beswick Lord a Mary Ellen Lord. Cafodd ei addysg mewn amryw o lefydd yn ystod gyrfa milwrol ei dad, cyn i'r teulu ymgartrefu yn Wrecsam. Astudiodd David yn Ysgol y Santes Fair, Wrecsam, ac yna yng Ngholeg y Santes Fair, Aberystwyth. Symudodd i Sbaen i astudio i fod yn offeiriad Catholig, ond pan suddodd Sbaen i mewn i ryfel cartref dychwelodd i Brydain ac ymrestrodd gyda'r awyrlu yn 1936.

Datblygodd David arbenigedd mewn darparu cyflenwadau i filwyr o’r awyr. Fe wnaeth hyn dros lawer o wahanol wledydd, gan gynnwys India a'r Aifft. Derbyniodd y Distinguished Flying Cross ym 1943.

Ar 19 Medi 1944 gadawodd RAF Down Ampney, Swydd Gaerloyw, mewn Douglas Dakota C47, rhif cofrestredig YS-L. Roedd yr awyren yn un o grŵp o Sgwadron 271 yn cario cyflenwadau i filwyr a oedd wedi’u hamgylchynu yn Arnhem, yr Iseldiroedd, ar ôl ymosodiad o'r awyr i geisio dechrau rhyddhau gwledydd rhag goresgyniad y Natsïaid. Wrth i awyren David agosau at y targed, trawyd ei injian starbord a dechreuodd losgi. Roedd yn amlwg y byddai’r awyren yn syrthio yn fuan, a dyma’r adeg delfrydol i’r criw i adael.

Ond hedfanodd David at y targed, yn benderfynol i ollwng y cyflenwadau yn y lleoliad cywir. Roedd gynwyr gwrth-awyrennau yn canolbwyntio ar yr awyren a oedd mewn trafferthion, ond cadwodd David ei awyren yn ddigon gwastad i’r gyfer i fedru gwthio allan y rhan fwyaf o'r cyflenwadau. Roedd yr awyren yn disgyn yn raddol, ond llywiodd David yr awyren i basio dros yr ardal am yr ail dro. Gyda'r holl gyflenwadau wedi’u dadlwytho, gorchmynodd y criw i adael. Ond roedd yn rhy hwyr. Ffrwydrodd yr awyren a chwalu. Cafodd yr unig oroeswr ei daflu allan tra’n helpu ei gyfeillion i gau eu parasiwtiau.

Mae ei ddyfyniad ar gyfer y VC yn nodi iddo hedfan yr awyren am wyth munud wedi i’r injan ddechrau llosgi. Mae'n cloi: “Drwy barhau ei gyrch mewn awyren a oedd wedi ei difrodi ac yn llosgi, gan ddisgyn i ollwng y cyflenwadau yn gywir, gan ddychwelyd i'r parth gollwng yr ail dro ac, yn olaf, gan aros wrth y llyw i roi cyfle i’w griw i ddianc, dangosodd lefftenant Lord ddewrder goruchel a hunan-aberth.”

Claddwyd David ym mynwent rhyfel Arnhem Oosterbeek.

Côd post: LL12 7AG    Map