Cartref plentyndod yr arloeswraig fyddar Dorothy Miles, Y Rhyl

BSL-USED-HERE---logo

button-theme-women button-theme-history-for-all

 

Roedd y tŷ hwn, yn agos at Marine Lake, yn gartref i Dorothy Miles pan ddaliodd y salwch a'i gadawodd yn fyddar. Parchwch preifatrwydd y preswylwyr wrth i chi edrych ar y tŷ.

Portrait of Dorothy MilesDaeth Dorothy yn arloeswr ym marddoniaeth Iaith Arwyddion Prydain (IAP neu ‘British Sign Language’) ac yn ddramodydd. Lluniodd y llawlyfr addysgu cyntaf ar gyfer tiwtoriaid IAP, a helpodd i sefydlu'r cwrs prifysgol cyntaf i bobl fyddar i ddod yn diwtoriaid BSL. Mae'r lluniau ohoni i'w gweld yma trwy garedigrwydd Liz Deverill.

Fe’i ganed ar 19 Awst 1931 yn Gwernaffield, Sir y Fflint, mewn annedd pedair ystafell o’r enw ‘The Hut’ (caban gwyliau o bosibl ar Fferm Cefn Mawr). Hi oedd yr ieuengaf o bum plentyn James ac Amy Squire. Roedd James, o'r Bers, Wrecsam, yn driniwr gwallt cyn ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymfudodd ef a'i deulu ifanc i Ganada yn 1920 ond dychwelodd yn ddiweddarach y ddegawd honno. Erbyn 1939 roedd y teulu'n byw yma, tra roedd James ac Amy yn gweithio fel glanhawyr i'r Swyddfa Bost Gyffredinol. Roeddynt hefyd yn gweithio sifftiau nos yn y gyfnewidfa ffôn, gan drosglwyddo galwadau i'r gwasanaethau brys yn ôl yr angen.

Ysgrifennodd Dorothy yn ddiweddarach (yn Saesneg) am “y darn o’r ‘tywod euraidd’ yng nghanolfan glan môr y Rhyl, fy nghartref cofiadwy cyntaf”. Fe wnaeth ei theulu feithrin ei chreadigrwydd. Roedd ei thad yn canu caneuon milwyr, ei mam yn adrodd barddoniaeth. Ysgrifennodd ei chwaer hynaf, Jean, gerddi a ddarllenodd, ynghyd â straeon, i Dorothy amser gwely. Yn ddiweddarach cofiodd Dorothy 27 Westbourne Avenue fel cartref hapus iawn.

Portrait of Dorothy MilesYm mis Mawrth 1940, cafodd Dorothy lid yr ymennydd serebro-sbinol, a’i gadawodd yn fyddar ac, i ddechrau, yn methu â cherdded. Mynychodd Ysgol Frenhinol y Byddar, Manceinion, ac Ysgol Mary Hare yn Sussex (yr ysgol ramadeg gyntaf i'r byddar).

Tra’n gweithio fel swyddog lles yng Nghymdeithas Les Oedolion Byddar a Mud Lerpwl, dechreuodd Dorothy actio mewn dramâu iaith arwyddion. Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Gallaudet yn Washington DC, lle ffynnodd ei thalentau llenyddol. Enillodd Dorothy wobrau am ei rhyddiaith, barddoniaeth ac actio. Yn 1958 priododd ei chyd-fyfyriwr Robert Miles, ond bu iddynt wahanu yn 1959.

Ar ôl graddio, ymunodd Dorothy â Theatr Genedlaethol y Byddar a dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth iaith arwyddion, gyda'r nod o bontio'r bwlch rhwng byd y clyw a phobl fyddar. Cyhoeddwyd ei chyfrol Gestures: Poetry in Sign Language yn 1976. Yn 1977 dychwelodd Dorothy i Brydain. Cyfrannodd at raglen deledu Undeb Cenedlaethol y Byddar ar y BBC, sef Open Door, a helpodd i gychwyn y gyfres deledu See Hear. Ysgrifennodd British Sign Language: A Beginner's Guide yn 1989, a gyhoeddwyd gan y BBC i gyd-fynd â’r gyfres. Rhagnodwyd meddyginiaeth iddi ar ôl episod deubegwn difrifol yn 1977. Ar noson 29 Ionawr 1993, ceisiodd Dorothy gysylltu â'r Samariaid gan ddefnyddio cyfathrebwr arbennig, ond roedd y llinell yn rhy brysur.

Tua 2 y bore ar 30 Ionawr, fe neidiodd o ffenestr ei fflat yn Llundain. Daeth llys y crwner i’r casgliad ei bod “wedi cymryd ei bywyd ei hun tra’n isel ei hysbryd”. Sefydlwyd y Dorothy Miles Cultural Centre (DMCC) er cof amdani. Oddi wrth hon y tyfodd Dot Sign Language, sefydliad dielw sy’n anelu at wella cyfathrebu a dealltwriaeth rhwng pobl fyddar a phobl sy’n clywed.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House. Ymhlith y ffynonellau mae'r DMCC, Dot Sign Language, Cymdeithas y Byddar Prydain a Phrifysgol Swydd Stafford. Hefyd ‘Unmasking Dorothy Miles, The Deaf Bard of Wales, England and America’ gan Steve C Baldwin, a ‘Discover Gwernaffield & Pantymwyn’ gan Lorna Jenner.

Cod post: LL18 1EG  Map

Mwy o wybodaeth am Dorothy Miles:
The Dorothy Miles Cultural Centre 

Dot Sign Language

British Deaf Association