Safle iard gychod Dickie, Ffordd y Traeth, Bangor
Sefydlodd Archibald Dickie ei iard gychod yn Tarbert, yr Alban, ym 1868. Symudodd y busnes ym 1925 i Fangor, gan gymryd drosodd safle iard dociau Rowland. O 1925 tan 1940 adeiladodd y cwmni gychod pleser coediog bach, o'r dingi lleiaf i gychod hwylio moethus.
Yn 1940 dechreuodd adeiladu cychod ar gyfer y Llynges Frenhinol. Dros y pum mlynedd canlynol, adeiladodd 28 llong: 11 Modur Lansio (MLs), chwe Cwch Peiriant Gwn (MGBs), 10 Cwch Torpido ac un cwch glanio. Profwyd y llongau gorffenedig ym Mae Biwmares, yna eu rhoi i griwiau'r llynges a hwyliodd i ffwrdd i gyrchfannau cudd.
Roedd y Cwch Peiriant Gwn MGB314, a adeiladwyd gan AC Dickie & Sons yn Hydref 1941, yn rhan o gyrch enwog St Nazaire, yn Normandi, Ffrainc. Lansiodd y Prydeiniwr ymosodiad môr ar y doc sych oedd wdi ei amddiffyn yn gryf gan yr Almaen. Cafodd MGB314 ei ddifrodi'n drwm gan ynnau glan yr Almaen ac fe’i suddwyd yn fwriadol i atal ei chipio.
Saethodd Modur Lansio ML162, a adeiladwyd gan Dickie's ym 1942, chwe awyren y gelyn i lawr, cymryd rhan yn suddo llong danfor a chafodd ganmoliaeth uchel am ei ran yn y goresgyniad D-Day (pan ddechreuodd lluoedd y Cynghreiriaid ryddhau tir mawr Ewrop). Ar ôl y rhyfel, gwasanaethodd ML162 ddwy flynedd yn Llynges Frenhinol yr Iseldiroedd. Yn 1952 cafodd ei ailenwi'n Golden Galleon a'i droi'n llong deithwyr ar gyfer mordeithiau ar y Norfolk Broads. Yn y pen draw, cafodd ei adael yn Reedham, ar Afon Yare, a chredir ei fod wedi'i dorri’n ddanau.
Dychwelodd Dickie i adeiladu cychod masnachol ar ôl y rhyfel. Mae'r Dywysoges Christine, a adeiladwyd yma ym 1963, yn parhau â'r traddodiad hir o fordeithiau teithwyr o gei Conwy.
Ar ôl i adeiladu cychod ddod i ben, mae'r enw Dickie yn parhau fel Dickies International, iard gychod, broceriaeth a delwyr i wneuthurwyr gwahanol gychod newydd. Mae yna swyddfeydd o amgylch Prydain, gan gynnwys ym Mhwllheli, Abertawe a Southampton. Yn 2010 symudodd y busnes i Borth Penrhyn, pellter byr i'r dwyrain. Yn ddiweddarach dechreuodd Watkin Jones Homes ddatblygiad tai, o'r enw Y Bae, ar safle'r iard gychod.
After boat building ceased, the Dickie name continues as Dickies International, a boatyard, brokerage and dealers for manufacturers of various new boats. It has offices around Britain, including at Pwllheli, Swansea and Southampton. In 2010 the business moved to Porth Penrhyn, a short distance to the east. Later Watkin Jones Homes began a housing development, called Y Bae, on the boatyard site.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Ffrynt Cartref, Llandudno, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL57 2SZ
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |