Ponciau Garret, Chwarel Dinorwig

Ponciau Garret, Chwarel Dinorwig

dinorwig_quarry_men_at_rockface
Pedwar chwarelwr yn gweithio ar wyneb y graig yn Chwarel Dinorwig. Mae’r
ail ddyn o’r chwith yn dal injan dyllu. Mae’r dyn pellaf i’r dde wedi’i rwymo
wrth wyneb y graig â rhaff. © Gwasanaeth Archifau Gwynedd

O’r fan hon ar y llwybr sy’n croesi’r chwarel, gallwch weld mor bell ag Abyssinia! Cadwch at y llwybr, os gwelwch yn dda.

Ponciau oedd yr enw ar y rhannau o wyneb y graig lle’r oedd y chwarelwyr yn gweithio. Mae llawer o’r ponciau uchaf i’w gweld oddi yma, ger yr hen sied ar lefel ‘Mills’. Abyssinia oedd y chweched lefel uwch ‘Mills’.

Gwelir ponciau is o bendraw’r domen wastraff hir ac o’r llwybr i’r de-ddwyrain o’r fan hon. 

Safai pedair ar ddeg o siediau llifio ar y prif bonciau. Roedd yna dros 30 o bonciau i gyd. Enwyd pob ponc ar ôl nodwedd leol, digwyddiad nodedig, rhywle yn y byd, dynes â chysylltiad â Dinorwig neu gymeriad lleol. Cyn-weithwyr yn y chwarel o’r 1820au-1840au oedd llawer o’r cymeriadau hyn. Yn eu plith roedd Edward Jones, Robin Rabar a Robin Dre. Sonnir yn y troednodiadau sut y cafodd rhai o’r ponciau eu henwau.

dinorwig_quarry_hospital
Golygfa o Ysbyty Chwarel Dinorwig. Gan fod cynifer o ddamweiniau
yn y chwarel, codwyd ysbyty ar y safle yn 1860.
© Mrs D P Hughes / Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Roedd llawer o beryglon yn wynebu gweithwyr Dinorwig. Yn ôl rhai a fu’n gweithio yno, roedd haen o lwch dros bob peth yn y siediau. Doedden nhw ddim yn cael dillad diogelu fel y byddent heddiw.  Doedd gan y dynion ddim masgiau i’w gwarchod rhag y llwch. 

Roedd y ponciau’n llefydd peryglus iawn i weithio. Câi dynion eu clymu wrth wyneb y graig â rhaff. Dyna’r unig beth oedd yn eu dal rhag syrthio i’r gwaelod. Roedd y graig roedden nhw’n gweithio arni yn ansefydlog. Roedd rhaid i’r chwarelwyr fod yn ymwybodol o ddarnau rhydd o’r graig uwch eu pen wrth weithio.

Os oedden nhw’n cloddio mewn rhan is o’r bonc, gallai darnau ansefydlog uwchben syrthio arnynt. Bu farw llawer o chwarelwyr fel hyn. Roedd hyd yn oed yn fwy peryglus mewn tywydd oer iawn. Byddai dŵr rhwng darnau o wyneb y graig yn rhewi ac yn chwyddo gan olygu bod darnau’n symud a dod yn rhydd.

Map 

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button

Troednodiadau: Enwau’r ponciau

  • Abyssinia: Yn yr 1860au, cyhoeddwyd llawer erthyglau am y rhyfel yn Abyssinia yn y wasg yng Nghymru. Roedd chwarelwyr Cymru yn feddylwyr mawr. Mae’n debygol eu bod yn trafod yr erthyglau hyn. Erbyn hyn, gwledydd Ethiopia ac Eritrea yn nwyrain Affrica sydd ar y tir lle’r oedd Abyssinia.
  • Alice: Enwyd y bonc hon ar ôl gwraig perchennog Chwarel Dinorwig, George William Duff (1848-1904). Priodwyd Alice a George ar 19 Ebrill 1888.
  • Australia: Roedd y bonc hon mewn man uchel iawn yn y chwarel. Roedd hefyd yn un o bonciau pellaf y chwarel ac roedd yn cymryd amser hir i’w chyrraedd. Felly teimlai fel pen draw’r byd a dyna pam y cafodd yr enw Australia.
  • California: Credir bod y gwaith wedi dechrau ar y bonc hon yn yr 1840au neu’r 1850au. Dyna pryd y bu’r Rhuthr am Aur yn America, a llu o bobl yn teithio i Galiffornia yn gobeithio gwneud eu ffortiwn. Yn ôl y sôn hefyd, yma roedd peth o’r llechfaen gorau yn Chwarel Dinorwig. Ac felly, roedd yn debyg i gloddio am aur.
  • Enid: Enwyd y bonc hon ar ôl merch perchennog y chwarel, George William Duff (1848-1904).
  • Hafod Owen: Enwyd hon ar ôl bwthyn a fu yno unwaith.
  • Harriet: Enwyd ar ôl un o ferched perchennog y chwarel, Thomas Assheton Smith (1752-1828).
  • Llangristiolus: Owen Rowlands oedd enw’r chwarelwr cyntaf i weithio ar y bonc hon. Deuai o Langristiolus, Ynys Môn.
  • Matilda: Enwyd ar ôl gwraig perchennog y chwarel, Thomas Assheton Smith (1776–1858). Dechreuwyd gweithio ar y bonc hon ar ddiwrnod eu priodas, 17 Hydref 1827.
  • Pant y Ceubren: Enwyd hon ar ôl bwthyn a fu ar y safle unwaith.
  • Toffat/Toffet: Roedd lle o’r enw Toffet yn y Beibl yn cael ei gyfrif yn lle dychrynllyd iawn. Efallai bod hyn yn rhoi syniad i ni o farn y dynion am y bonc hon.
  • Victoria: Enwyd ar ôl y Frenhines Victoria.
  • Wembley: Dechreuwyd gweithio ar y bonc hon tuag 1923 neu 1924. Agorwyd stadiwm Wembley ar 28 Ebrill 1923. Cynhaliwyd arddangosfa’r Ymerodraeth Brydeinig yn fuan wedyn yn 1924 ac 1925. Roedd yr arddangosfa’n ffenest siop i gynnyrch o Gymru a sgiliau gweithwyr Cymru, yn cynnwys rhai yn y diwydiant llechi.