Golygfan is Garret, chwarel lechi Dinorwig
Golygfan is Garret, chwarel lechi Dinorwig
Mae'r olygfa i'r gorllewin o'r llwybr troed traws-chwarel yma yn rhoi ciplun o sut wnaeth adran Garret y chwarel esblygu yn yr 20fed ganrif. Cadwch ar y llwybr troed a pheidiwch â chroesi'r ffens os gwelwch yn dda.
Mae'r ffotograff isod yn darparu cyfeiriad. Mae'r awyrlun, drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos yr ardal hon ym 1946.
Tomen wastraff lechi hir yw'r gwastadedd ar draws y top (ceir golygfa wych arall ar ei phen draw). Roedd llechi yn cael eu prosesu ar raddfa fawr ar y bonc honno, o'r enw Mills.
Lleolir tŷ weindio inclên A3 ar droed y domen lechi. Ceir ardal gwastad o'i flaen lle'r oedd traciau rheilffordd yn arwain at droed inclên A4, oedd yn dod i lawr o Mills.
Roedd llechi yn gadael y chwarel o bonc Mills yn y degawdau cynnar ond ar ôl i Reilffordd Padarn (ar hyd glannau'r llyn) agor ym 1843, roedd modd cludo llechi'n hawdd o bonciau o dan Mills. Cafodd inclêns cynnar mewn llefydd amrywiol eu newid gydag inclêns disgyrchiant cyfres A cysylltiol, oedd yn arwain i Reilffordd Padarn yn Gilfach Ddu
Cafodd adeilad melin arall ei adeiladu ym 1935 ar y bonc o dan Mills, o'r enw Harriet. Mae ei sylfaen goncrid yn dal yn weladwy. Roedd gwastraff o Harriet yn cael ei ddadlwytho ger inclên A3 yn y lle cyntaf. Dechreuodd ymlwybro fwyfwy i California, y bonc nesaf o dan Harriet. Gallwch weld lle'r oedd y rheilffordd, yn cysylltu California i'r A4, yn crymu o gwmpas troed y domen wastraff hon.
Ar y bonc honno, gallwch hefyd weld olion rhes o gytiau lle'r oedd llechi yn cael eu hollti. Dyma un o sawl gwaliau yn y chwarel. Roedd to ar y cytiau ond roeddent yn agored i'r tywydd ar un ochr. Cawsant eu disodli yn yr 20fed ganrif gan y melinau mwy. Cafodd gwaliau California eu gadael erbyn yr 1940au. Mae'r awyrlun yn tueddu i ddangos bod gan bedwar o'r cytiau doeau o hyd ym 1946.
Roedd 15 neu 16 o gytiau yn y rhes ond waliau chwech yn unig sydd ar ôl. Mae rhai wedi'u claddu dan y ddwy domen llechi agosaf, a gafodd eu dyddodi yn nwy ddegawd olaf y chwarel cyn iddi gau ym 1969.
Mae modd gweld nifer o'r ponciau Garet uwch o'r llwybr i'r gogledd-orllewin o fan hyn.
Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.