Golygfan lefel ‘Mills’, chwarel Dinorwig
Golygfan lefel ‘Mills’, chwarel Dinorwig
O ben y domen wastraff ar lefel ‘Mills’, mi welwch banorama syfrdanol o dirwedd ardal lechi. Mae’n anodd dychmygu ardal mor hardd yn gartref i ddiwydiant trwm. Allwch chi ddychmygu dynion yn gweithio ar wyneb y graig ar ochr y mynydd mewn gwynt, glaw, eira neu rew?
Caiff y diwydiant llechi ei gysylltu’n arbennig â Chymru. Roedd sawl chwarel lai yn rhan o chwarel Dinorwig. Roedd pob un yn cynhyrchu llechi o wahanol liw. Câi llawer o’r llechi a gloddiwyd yma eu hallforio i bedwar ban byd. Deuai tua 5% o holl lechi’r byd o Ddinorwig. Roedd tua 90% o’r llechfaen a gloddiwyd yn mynd yn wastraff i’r tomenni. Mae tystiolaeth o’r diwydiant llechi yn dal i’w weld mewn sawl ardal.
Gwelir nifer o fannau arbennig oddi yma, yn cynnwys Castell Dolbadarn a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr, Llyn Peris, Llyn Padarn a phentref Llanberis.
Câi’r chwarelwyr eu talu yng Nglan y Bala, nid nepell o Bont y Bala. Tua’r fan hon roedd dynion Llanberis yn dod i mewn i’r chwarel. Dyma lle’r oedd canolfan weinyddol chwarel Dinorwig. Pe bai rhywun yn cael ei ddiswyddo o’r chwarel, dywedid ei fod wedi ‘cael ei yrru dros Pont Bala’.
Os dilynwch y llwybr sy’n croesi’r chwarel tua’r dwyrain, mi welwch olygfa arall, tuag at y domen wastraff hon.
Defnyddiai’r chwarel ddull y ‘fargen’. Darn o graig chwe llath (tua 5.5 metr) o led ar un o’r ponciau oedd bargen. Câi pob bargen ei gosod i ‘griw’ oedd yn aml yn perthyn i’w gilydd. Byddai’r criwiau’n gweithio’n annibynnol ac yn trafod prisiau gyda stiwardiaid y chwarel. Roedd y stiwardiaid yn cynnig swm am graig dda a llai o arian am rwbel. Câi’r graig ei mesur yn ofalus i amcangyfrif faint o lechi y gellid eu cynhyrchu o’r fargen honno. Roedd cyflogau’r criwiau yn dibynnu ar y ‘bargeinio’ hwn.
Roedd ymdeimlad o frawdgarwch ymhlith y chwarelwyr a byddent yn helpu ei gilydd. Ar y ponciau ac yn y siediau, byddai’r chwarelwyr yn helpu gweithwyr eraill a oedd heb gyrraedd eu targedau.
Gwelir llawer o bonciau uchaf Garret o’r llwybr i’r gogledd-ddwyrain o’r fan hon.