Safle ysbyty chwarel gwreiddiol Dinorwig

Safle ysbyty chwarel gwreiddiol Dinorwig

Os ydych newydd sganio'r codau QR wrth ymyl adeilad segur y felin, rydych yn sefyll bron iawn yn lle'r oedd ysbyty cyntaf y chwarel. Diflannodd yr adeilad pan wnaeth mwy o dipio ledu ehangder topiau gwastad y garreg wastraff yma yn y 1930au.

Adeiladwyd ysbyty'r chwarel oddeutu 1830. Roedd ar waelod ffordd fechan oedd yn rhedeg gyfochrog â 'thramffordd y pentref' ychydig yn is i lawr y bryn. Cafodd ei newid gydag ysbyty mwy ger Gilfach Ddu yn oddeutu 1860, ac yn dilyn hynny roedd yn cael ei adnabod fel Hen Hospital . Yn fwy diweddar yn ei hanes roedd yn siop.

Nid oedd gan unrhyw chwarel ei ysbyty ei hun yn yr 1830au, er gwaethaf y peryglon i'r gweithlu. Roedd ymwelwyr mewn ychydig o beryg hyd yn oed. Ym 1853, cynhaliwyd cwest Catherine Williams yn yr ysbyty, yr unig ddynes a laddwyd yn y chwarel o bosib.

Morwyn ydoedd, oddeutu 24 oed, yn fferm Felin Fach, Llanrug. Aeth i ymweld â'r chwarel gyda dwy wraig arall o Lanrug i weld y gwaith ar un o'r ponciau. Roedd y gwaith yn cael ei wneud gan chwarelwr. Ystyriwyd eu bod yn sefyll ar bellter diogel i wylio'r 'gwastraff' yn cael ei glirio o uchder. Adlamodd ychydig o'r graig oedd yn syrthio a chafodd Catherine ei tharo yn ei chefn gan un o’r darnau. Collodd waed yn helaeth a bu farw'n fuan. Fe'i claddwyd yng Nghlynnog, ei phentref genedigol.

Cynhaliwyd cwest yn ysbyty'r chwarel ym 1855 ar ôl i dri gweithiwr farw mewn siafft oedd yn cael ei suddo. Roedd ffrwydrad mawr wedi cael ei danio'n ddiogel. Ar ôl y cyfnod aros arferol, dilynodd y dynion y naill a'r llall i'r twll ond fe'u mygwyd yn y gwaelod.

Bu farw David Roberts, oedd yn byw gyda'i deulu yn yr hen ysbyty yn yr 1870au, yn yr ysbyty newydd ym 1878. Chwalwyd ei goes gan graig fawr. Bu farw yn ystod llawdriniaeth i dorri'i goes, gan adael sawl plentyn a gweddw.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button