Adfeilion sied lechi, chwarel Dinorwig

Adfeilion sied lechi, chwarel Dinorwig

Old photo of Dinorwig quarrymen splitting slate
Dynion yn hollti llechi yn Chwarel Dinorwig © Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Yr enw ar yr adeilad hwn oedd Mills No.3. Agorwyd ef yn 1927, ac roedd wedi’i gynllunio ar gyfer llifio, hollti a naddu llechi toi. Bu sied gynharach, a godwyd yn 1848, tua’r un man.  Cyrhaeddodd y byrddau llifio cyntaf yn 1849, ag injan stêm yn eu gweithio.

Roedd sied arall ychydig i’r de-ddwyrain o’r fan hon tan 1970. Yr enw arni oedd 'Ffiar Injan' (Fire Engine) ar ôl yr injan stêm oedd yn gweithio’r peiriannau. Gwnaed yr injan gan gwmni Davy Brothers o Sheffield i weithio peiriannau’r sied ar lefel A4. Câi’r llechfaen ei symud ar rwydwaith o dramffyrdd o’r enw inclêns. Roedd yr inclêns ‘A’ yn cysylltu mannau ar un ochr i’r chwarel. Yr A4 oedd y bedwaredd inclên mewn cyfres o ddeg.

Gosodwyd llinellau trydan uwchben i Chwarel Dinorwig yn 1905 a’u cysylltu yn 1906. Er bod peiriannau trydan yn helpu â rhai tasgau, roedd rhaid gwneud llawer o bethau â llaw o hyd. 

Old photo of Dinorwig quarryman at work
Un o chwarelwyr Dinorwig yn defnyddio morthwyl a
chŷn brashollti i wneud un o’r clytiau llechi yn llai.
© Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Yn y rhan hon o’r chwarel roedd 'Caban Ffiar Injan' a allai ddal tua 200-300 o ddynion. Yn ogystal â bod yn safle diwydiant trwm, roedd Chwarel Dinorwig yn fwrlwm o weithgarwch cymdeithasol, diwylliannol a deallusol. 

Roedd dynion y siediau’n gweithio’n galed ond lle i orffwys a myfyrio oedd y Caban. Yno y byddai’r gweithwyr yn cael eu cinio ac, weithiau, baned. Nid dim ond bwyta ac yfed a wnaent yno. Roedd y Caban yn lle pwysig i drafod materion o bwys fel gwleidyddiaeth, crefydd a barddoniaeth hefyd. Roedd chwarelwyr Cymru’n enwog am fod yn feddylwyr mawr ac yn ddarllenwyr brwd. 

Cynhaliwyd eisteddfodau yn Chwarel Dinorwig ar hyd y blynyddoedd. Cafwyd eisteddfod wych yng Nghaban Ffiar Injan yn 1937 ac eisteddfod dros dri diwrnod yn 1938. Roedd yno gadair i enillydd cystadleuaeth yr awdl. Cerdd hir ar fwy nag un mesur sy’n cynnwys cynghanedd yw awdl. Mae’r geiriau 'Eisteddfod Gadeiriol Caban Mills, 1938' i’w gweld ar gadair yr eisteddfod honno. Gwelir y gadair yng nghasgliad Amgueddfa Lechi Cymru erbyn hyn.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button