Llwybr 'tramffordd y pentref', chwarel lechi Dinorwig

sign-out

Llwybr 'tramffordd y pentref', chwarel lechi Dinorwig

Mae'r llwybr troed o Allt Ddu i hen ardal Garet y chwarel lechi yn defnyddio llwybr tramffordd, a adeiladwyd ym 1824. Yn wreiddiol, fe wnaeth ffyrdd haearn (ffurf gyntefig o reilffyrdd) barhau i ddocio yn Y Felinheli. Mae graddiant disgynnol gan y llwybr tuag at Allt Ddu, a hwylusodd draffig llwythog oedd yn dod i lawr heb rwystro cerbydau cludo gwag a thraffig oedd yn mynd yn ôl i fyny.

Ar ôl i reilffordd lefel isel Padarn agor ym 1843, aeth llif y llechi y ffordd arall. Fe wnaeth chwareli Chwarel Fawr ac Allt Ddu (ger y cylch troi bysiau heddiw) gynhyrchu canran sylweddol o gynnyrch llechi Dinorwig. Ar ôl i'r dramffordd wreiddiol i'r Felinheli gau, roedd rhaid i lechi o'r chwareli hynny fynd i bonc Mills yn Garet, lle'u gollyngwyd ar yr inclêns A i Reilffordd Padarn yn Gilfach Ddu. Daethpwyd i adnabod y llwybr bychan hwn fel 'tramffordd y pentref' oherwydd ei fod yn arwain i bentref Dinorwig.

Ym 1899, dechreuodd gwaith ar lwybr newydd gyda dringfeydd ysgafnach. Roedd ychydig i'r dde o'r llwybr wrth i chi gerdded i fyny o Allt Ddu. Fe wnaeth llwybr y dramffordd segur ddarparu mynediad ffordd i gyfadeilad Mills a dyma hefyd oedd llwybr y ffordd lechi gynharach (1806-1808) o'r chwarel i'r Felinheli.

Roedd rhaid i drenau o Chwarel Fawr fagio yn ôl yn Allt Ddu, lle'r oedd y ceffyl yn cael ei arwain i ben arall y wagenni ar gyfer darn nesaf y daith.

Ym 1902, cafodd y ceffylau eu hamnewid gan y chwarel gyda thrên stêm. Roedd hyn yn golygu buddsoddiad pellach, nid yn unig yn y trên ond hefyd i gryfhau'r rheilffyrdd, yr adeilad a'r sied injan yn Allt Ddu. Roedd y rheilffordd yn gymhleth i'w gweithredu oherwydd ni ellid cerdded injan stêm o un pen i'r wagenni i'r llall! Ni ddarparwyd dolen 'run-round' i'r injan gael newid pen.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button