Safle Chwarel Fawr, Dinorwig

Safle Chwarel Fawr, Dinorwig

Photo of Chwarel Fawr c.1971

Ar un cyfnod roedd hollt fawr ar ochr y bryn yma - sef chwarel lechi o'r enw Chwarel Fawr. Mae'r ffotograff lliw, drwy garedigrwydd Gareth Roberts, yn dangos y chwarel ychydig cyn iddi gael ei llenwi yn y 1970au, a phan gafodd y ffordd ei sythu. Mae'r llwybr cyhoeddus sy'n dringo o'r fan yma yn dilyn ymyl gorllewinol y chwarel.

Chwarel Fawr oedd un o'r chwareli hynaf yn ardal Dinorwig, o bosib yn weithredol o ddechrau'r 18fed ganrif. Roedd y chwarel yn weithredol erbyn 1770 yn ôl hunangofiant Griffith Ellis, y rheolwr a ehangodd raddfa prif chwarel Dinorwig yn y 19eg ganrif. Enwodd chwe dyn a weithiodd yn Chwarel Fawr yn ystod y blynyddoedd cynnar. Gwerthwyd y llechi i adeiladwyr lleol.

Before then, local cottagers would pay the landowner a small fee for the right to extract small quantities of slate in various places, as a sideline to their main means of living. Chwarel Fawr soon dwarfed those earlier workings, which might explain how it got it name – which means “large quarry”. It in turn was eventually dwarfed by the main Dinorwig quarry, a little further south.

Cyn hynny, byddai'r bythynwyr lleol yn talu ffi isel i'r tirfeddiannwr am yr hawl i echdynnu meintiau bach o lechi mewn lleoliadau amrywiol, i ychwanegu at eu prif fywoliaeth.  Yn fuan tyfodd Chwarel Fawr yn llawer mwy na'r gweithfeydd cynharach, ac mae'n debygol mai dyma sut y cafodd ei henw. Ymhen amser, tyfodd prif chwarel Dinorwig, ychydig ymhellach i'r de, yn llawer mwy na Chwarel Fawr.

I gychwyn, cludwyd y llechi o Chwarel Fawr gan geffylau, ac yn ddiweddarach fe'u cludwyd at lan Llyn Padarn a'u llwytho ar gychod. O tua 1808 ymlaen fe'u cludwyd i'r Felinheli trwy Ddeiniolen. Pan agorwyd y rheilffordd ym 1825, roedd modd i'r llechi deithio mewn wagenni rheilffordd yr holl ffordd o Chwarel Fawr a'r chwareli cyfagos i'r porthladd yn y Felinheli.

Photo of view towards Chwarel Fawr c.1971Wrth i'r gwaith cloddio yn Chwarel Fawr ymestyn yn ddyfnach i'r ddaear, cloddiwyd twnnel i ddraenio ac i greu trac i gysylltu â Rheilffordd Dinorwig. Yn ddiweddarach cloddiwyd ail dwnnel, gan ostwng lefel llawr y chwarel eto. Uwchben y twneli, roedd y ffordd yn crymanu ar hyd ymyl twll y chwarel. Gadawyd y gwastraff ar y llethr o dan y ffordd.

Ar ôl agor Rheilffordd Padarn, ar hyd glan y Llyn yn 1843, byddai llechi o Chwarel Fawr yn cael eu tynnu i fyny at y melinau a system inclein prif chwarel Dinorwig. Roedd yn waith llafurus i'r ceffylau ac yn aneffeithlon. Cynlluniwyd llwybr newydd gyda dringfeydd haws, a chyflwynwyd locomotif ager yn lle'r ceffylau ym 1902.

Mae'r ffotograff ar y gwaelod yn dangos yr olygfa i'r gogledd o ardal chwarel Allt Ddu, gyda Chwarel Fawr yn y gornel uchaf ar y dde a'r tomenni gwastraff i'r chwith. Ar y chwith gwelir y clawdd cerrig oedd yn cludo'r rheilffordd o un o dwneli Chwarel Fawr, a gellir gweld yr agoriad y tu hwnt i'r domen agosaf.

Diolch i Gareth Roberts o Menter Fachwen am y ffotograffau, a dynnwyd tua 1971 gan Gwilym Lloyd Roberts

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Cod post: LL55 3ES    Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button