Gweddillion chwarel lechi Allt Ddu, Dinorwig
Gweddillion chwarel lechi Allt Ddu, Dinorwig
O'r ffordd yma gallwch weld rhai o weithfeydd uchel un o'r chwareli llechi cynharaf yn ardal Dinorwig. Y gwastadedd glaswelltog yw lle cafodd y gweithfeydd is eu llenwi yn y 1970au, wrth gynnal gwaith tirlunio ar y naill ochr i'r ffordd.
Yn awyrlun 1946, drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, gallwch weld Chwarel Fawr gerllaw yn rhan uchaf y llun. Y ddau gysgod mawr ar y dde yn y gwaelod yw dau bwll chwarel Allt Ddu.
Credir bod cloddio am lechi wedi dechrau yn ardal Allt Ddu tua'r flwyddyn 1700. Datblygodd chwarel Allt Ddu fel dau bwll gyda chrib o graig yn y canol, a gadwyd gan ei fod yn cynnal nant. Mae'r hen fapiau yn marcio'r cwrs dŵr fel “traphont”. Cysylltwyd y ddau bwll gan dwneli byr drwy'r crib.
Wrth i'r chwarelwyr ddilyn y wythïen o lechi yn ddyfnach i'r ddaear, cloddiwyd twnnel rheilffordd er mwyn gallu tynnu'r llechi heb eu codi yn gyntaf o lawr y chwarel. Roedd y twnnel hir yn rhedeg i'r gogledd-orllewin am dros 200 metr tuag at nifer eang o incleiniau a melinau lle byddai llechi o Chwarel Fawr hefyd yn cael eu prosesu.
Ers 1825, cludwyd llechi toi o'r ardal at y môr yn y Felinheli gan ddefnyddio Rheilffordd Dinorwig a oedd yn cael ei weithio gan geffylau. Pan agorwyd Rheilffordd Padarn ar lefel is yn 1843, cludwyd llechi Allt Ddu i fyny "tramffordd y pentref" (sef hen ben deheuol Rheilffordd Dinorwig) i brif felinau chwarel Dinorwig, ac wedyn lawr i lan y llyn.
Cyn i'r locomotif ager ddisodli gwaith y ceffylau ym 1902, adeiladwyd llwybr newydd, gyda llai o inclein o Chwarel Fawr i'r melinau trwy chwarel Allt Ddu. Ar ddwy ochr y ffordd, gwelwyd 'spageti' o reilffyrdd lein-gul a thracffyrdd, ynghyd â thomenni o gerrig gwastraff.
Mae'r ffotograff ar y gwaelod a dynnwyd tua 1971 gan Gwilym Lloyd Roberts yn dangos pen uchaf y chwarel (rhan uchaf y llun). Yn y gornel bellaf ar y dde, gwelir trawstiau pren rheilffordd segur. Yn y gornel uchaf ar y dde gwelir rhan o lethr eang o wastraff a ddaeth o adran Garret chwarel Dinorwig (tu hwnt i ysgwydd y mynydd).
Diolch i Gareth Roberts o Menter Fachwen am y llun gan Gwilym Lloyd Roberts.
Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.
Cod post: LL55 3ET Map