Cofeb trychineb argae Dolgarrog
Gwasgwch y triongl i wrando ar y testun. Cliciwch yma am fwy o ddarlleniadau
Mae’r gofeb hon yn coffáu dioddefwyr trychineb argae Dolgarrog ar noson dywyll a stormus 2 Tachwedd 1925.
Roedd dŵr wedi bod yn trylifo ers blynyddoedd o dan argae Llyn Eigiau, i fyny yn y mynyddoedd i'r gorllewin o Ddolgarrog. Ar ôl haf sych a hydref gwlyb ym 1925, cynyddodd y trylifiad dŵr o dan yr argae yn gyflym, gan erydu agoriad hirsgwar mawr yn y ddaear o dan sylfaen fas wal yr argae; arhosodd wal a sylfaen yr argae yn gyfan ac ymestyn dros yr agoriad.
Cymharol ychydig o ddifrod fyddai'r dŵr a lifai drwy'r twll wedi ei wneud pe bai wedi'i ddargyfeirio cyn cyrraedd cronfa ddŵr Coedty, yn is i lawr y dyffryn. Yn lle hynny, dechreuodd y dŵr i arllwys dros ben argae Coedty. Cwympodd craidd yr argae’n sydyn, gan anfon ton o filiynau o alwyni o ddŵr i lawr y ceunant cul – yn cario clogfeini anferth yn pwyso llawer o dunelli – tuag at bentrefwyr diarwybod Dolgarrog.
Erbyn y diwrnod canlynol roedd 10 oedolyn a chwech o blant yn farw. Bu llifogydd difrifol yn ffatri’r Aluminium Corporation gerllaw ond cafodd y tua 200 o weithwyr yno i gyd eu hachub yn llwyddiannus. Efallai y byddai’r nifer o farwolaethau wedi bod yn uwch pe na bai’r rhan fwyaf o’r pentrefwyr wedi bod yn mynychu sioe sinema yn y neuadd gymunedol ar dir uwch.
Roedd Stanley Taylor mewn cyfarfod Sgowtiaid pan darodd y llifogydd ei gartref. Bu farw yn ceisio'n ofer i achub ei wraig a'i ferch fach o'r llanastr. Mae eu bedd ym mynwent y Gogarth.
Ysgogodd y trychineb y Senedd i ddeddfu ar gyfer safonau diogelwch gwell mewn cronfeydd dŵr. Roedd Deddf Cronfeydd Dŵr (Darpariaethau Diogelwch) 1930 yn cynnwys rheoliadau ynghylch cynnal a chadw hen argaeau, yn ogystal ag adeiladu rhai newydd. Roedd hyn yn ymateb hwyr i nifer o fethiannau argaeau ym Mhrydain, gan gynnwys un a laddodd 12 o bobl yn Ne Cymru ym 1875.
Roedd yr orsaf bŵer hydro, sy’n dal yma heddiw, yn darparu trydan i drefi Llandudno, Bae Colwyn a Chonwy. Plymiwyd y trefi arfordirol i dywyllwch oherwydd difrod y llifogydd sydyn.
Crëwyd taith gerdded goffa yn y maes clogfeini yn 2004. Amcangyfrifir bod rhai o'r clogfeini a ddygwyd i lawr gan y llifeiriant yn pwyso dros 500 tunnell. Mae’r llun uchod, diolch i Wasanaeth Archifau Conwy, yn dangos ehangder o glogfeini a malurion eraill yn Nolgarrog ar ôl y trychineb, gyda rhan o’r ffatri alwminiwm yn y pellter canol.
Gyda diolch i John Lawson-Reay ac i David Greatrex, cyn Reolwr Diogelwch Cronfeydd Dŵr Cymru
Cod post: LL32 8JU Map
Gwefan Gwasanaeth Archif Conwy
![]() |
![]() ![]() |
Troednodiadau: Dioddefwyr trychineb yr argae
- Elizabeth Brown, 46 oed, Byngalo Rhif 1.
- Betty Brown, 3 oed. Merch Elizabeth Brown.
- Susan Evans, 3 Machno Terrace.
- Ceridwen Evans, 5 oed. Merch Susan Evans.
- Bessie Evans, 3 oed. Merch Susan Evans.
- Gwen Evans, pedwar mis oed. Merch Susan Evans.
- Harold Victor Higgins, 30 oed. Lletywr yn 2 Machno Terrace. Daeth o ger y Trallwng.
- Catherine McKenzie, 36 oed, o 2 Dolgarrog Cottages.
- Mona McKenzie, 5 oed. Merch Mrs McKenzie.
- Margaret Sinott, 63 oed, o Fwthyn Porth Llwyd.
- Stanley Taylor, 1 Machno Terrace.
- Dorothy Taylor, gwraig Stanley.
- Sylvia Taylor, 17 mis oed. Merch Stanley a Dorothy Taylor.
- Mary Williams, 66 oed, o 2 Machno Terrace.
- William Twynham, 52 oed, Tai’r Felin.
- Jennie Twynham, 52 oed. Gwraig William.